CLAWR

COFIWCH! Mae'r Cwrdd Chwarter i bawb sy'n cwrdd yn un o'r 34 o gapeli Annibynnol yng Ngorllewin Caerfyrddin. 


Dy' chi ddim ar eich pen eich hunan yn y dyddiau anodd hyn.  

Dewch i glywed pa gymorth sydd ar gael i helpu cynnal yr achos – o ran addoliad, materion ariannol a chyfreithiol.  Dewch i glywed beth sy'n digwydd mewn capeli eraill, ac i rannu profiadau.


A  dewch i fwynhau sgwrsio gyda ffrindiau hen a newydd dros bryd o fwyd – sy'n rhad ac am ddim! 

NEGES HERIOL YN SUL SBESIAL 2024

Dyletswydd y Cristion yw protestio yn erbyn anghyfiawnder a hyrwyddo heddwch meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, y siaradwr gwadd yn ein Sul Sbesial yn Yr Egin S4C.


‘Ar draws hanes mae pobol fel Martin Luther King wedi ymladd dros gyfiawnder,’ meddai wrth anerch cynulleidfa sylweddol. ‘Yn ei lyfr A Gift of Love mae e’n holi’r cwestiwn: Os nad dyn sy’n medru creu byd heddychol, ac nid Duw, felly pwy? Duw trwy ddyn yw’r ateb, wrth gwrs. Ond mae rhaid i ni adael Duw i mewn a gadael iddo ein harwain ni yn ein gwaith. Os nad yw’r eglwys neu ni fel unigolion yn barod i ddweud ‘Na, nid yn ein henwau ni’ pwy sydd i sefyll dros y gwan a gweithio tuag at heddwch?

Ffolineb y Ffermwr Cyfoethog

Plant Ysgol Sul Bryn Iwan o dan arweiniad ei gweinidog y Parchg Gareth Ioan oedd yn gyfrifol am yr addoliad ar y dechrau. Cafwyd cyflwyniad byr a chaneuon yn seiliedig ar ddameg Iesu am y ffermwr ffôl oedd yn ymfalchïo yn ei gyfoeth mawr, ond a fu farw’n sydyn heb gyfle i’w fwynhau.


Arweiniwyd gweithdy i’r plant yn y Stiwdio gan Ann Evans. Y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Cadeirydd y Cyfundeb, bu’n arwain yr achlysur, gyda Band y Priordy yn cyfeilio’r emynau mewn ffordd fywiog. Cafodd pawb gyfle i fwynhau paned a chacen yn y caffi ar ddiwedd Sul Sbesial llwyddiannus arall.


NODDWYD  SUL SBESIAL 2024 GAN DDYDD GWEDDI'R BYD

OEDFA SEFYDLU'R PARCHG BETI-WYN JAMES YN WEINIDOG ELIM AC HEOL AWST

A CHREU GOFALAETH NEWYDD CAERFYRDDIN A BANCYFELIN (Gweler y fideo)

CADEIRYDD NEWYDD Y CYFUNDEB

Llongyfarchiadau i'r Parchg Guto Prys ap Gwynfor ar gael ei urddo'n Gadeirydd newydd y Cyfundeb yng Nghwrdd Chwarter Bryn Iwan ar ddydd Iau, 23 Tachwedd 2023.

Trosglwyddwyd Beibl y Cadeirydd iddo gan y cyn-gadeirydd, Rhiannon Mathias.

Diolch yn fawr iawn i Rhiannon am ei gwaith yn ystod y flwyddyn, a phob bendith i Guto yn y swydd.

(Gweler crynodeb o'i araith yn adran Cwrdd Chwarter y wefan hon)

EGLWYSI DEMENTIA GYFEILLGAR

Yn dilyn y lansiad yn Undeb150 yng Nghaerfyrddin, mae ffolder wedi mynd i bob eglwys am yr ymgyrch bwysig hon. Mae toreth o fanylion ar wefan yr Undeb:


https://www.annibynwyr.org/cy/page/eglwysi-dementia-gyfeillgar


Ac isod mae'r fideo o'r noson a gynhaliwyd dros Zoom gan y Cyfundeb.


Dyma fideo o bob capel sy'n y Cyfundeb! Mwynhewch y daith!

FFRYDIO OEDFAON O'R CAPEL I'R CARTREF


Fe drefnodd y Cyfundeb sesiwn rhithiol gyda RHODRI DARCY, Swyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu Undeb yr Annibynwyr, er mwyn dysgu mwy am sut i ffrydio oedfaon yn fyw o'r capel i'r cartref trwy gyfrwng technoleg gyfoes.

Dyma recordiad o'r cyflwyniad gan Rhodri. 

Bu'r Parchg ROBIN SAMUEL, y swyddog o'r Undeb oedd yn gyfrifol am y Rhaglen Arloesi a Buddsoddi yn anerch rhith gyfarfod o'r Cyfundeb. Mae'r manylion a rhai syniadau yn y fideo hon.


Ewch i'r adran Adnoddau i weld detholiad o oedfaon rhithiol gweinidogion y Cyfundeb

CYNNAL EIN GILYDD 

Cofiwch barhau i gadw mewn cyswllt diogel â holl aelodau’r eglwys, drwy ffôn, e-bost ac yn y blaen; i sicrhau gofal neilltuol dros yr hen a’r bregus ac i fod yn gymdogion da yn eu cymunedau – gan barchu'r rheolau presennol.

O'R ARCHIF

Rhai oedfaon amgen a gynhaliwyd yn ystod yr haf

Fe wnaeth y Parchg Beti Wyn James gynnal oedfa “gyrru i mewn”  gyda phobol yn ymgynnull yn eu ceir ym maes parcio Clwb Rygbi Cwins Caerfyrddin.

Daeth 52 o geir i’r oedfa, gyda 110 o bobol ac mae’n debyg mai dyma’r oedfa “gyrru i mewn” gyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru. Fe wnaeth hi ddefnyddio pick-up fel pulpud a system sain, gyda stiwardiaid yn sicrhau fod pawb yn cadw at fesurau diogelwch. Mwy:


https://golwg.360.cymru/newyddion/2006312-gweinidog-caerfyrddin-cynnal-oedfa-gyrru-mewn

Cynhaliwyd oedfaon awyr agored y tu fas i gapeli Bwlch-y-corn, Peniel a Phant-teg, gyda'r gweinidog, y Parchg Emyr Gwyn Evans yn pregethu o'r Epistol at yr Effesiaid "Undod corff y Meseia."  Cafwyd darlleniad a gweddi, cyn cyd-adrodd gweddi’r Arglwydd. Roedd pawb yn llawen dros ben o gael y cyfle i gwrdd am y tro cyntaf ers mis Mawrth, gan barchu’r pellder corfforol, wrth gwrs. (Lluniau: y ffyddloniaid ym Mwlch-y-corn)

CADEIRYDD NEWYDD Y CYFUNDEB 


Cafodd ELONWY PHILLIPS ei hurddo'n gadeirydd y Cyfundeb am y flwyddyn 2020 mewn Cwrdd Chwarter yn Henllan Amgoed. Yn absenoldeb anorfod y Parchg Meirion Sewell, Cadeirydd 2019, fe gyflwynwyd Beibl y Cyfundeb iddi gan Joan Thomas, cyn-gadeirydd. Dymunwn pob bendith iddi. 

COFIWCH: Mae'r Cwrdd Chwarter yn agored i bawb.

Cewch groeso a chwmni da, a lluniaeth am ddim!

Cofiwch anfon o leiaf DDAU gynrychiolydd o bob capel – ond ar ôl codi'r gwaharddiadau presennol ar gyfarfodydd cyhoeddus, wrth gwrs.


CAFODD Y SUL SBESIAL ELENI EI GANSLO. Dyma flas o'r achlysur arbennig iawn a gafwyd y llynedd. Edrychwn ymlaen yn ffyddiog at 2021! (Lluniau:Alun Lenny)

Gŵyl y Sul Sbesial 2019 - Yr Egin
Gŵyl y Sul Sbesial 2019 - Yr Egin
Band y Priordy
Band y Priordy
Meleri Cray, Cymdeithas y Beibl
Meleri Cray, Cymdeithas y Beibl
Rhodri Darcy, Undeb yr Annibynwyr
Rhodri Darcy, Undeb yr Annibynwyr
Nigel Davies MIC
Nigel Davies MIC
Bwrlwm Bro
Bwrlwm Bro
Y Gadwyn Weddi
Y Gadwyn Weddi
Elonwy Phillips â'r diolchiadau
Elonwy Phillips â'r diolchiadau
Maer a Maeres Caerfyrddin
Maer a Maeres Caerfyrddin
Y Gegin
Y Gegin
SS19 Cafe
SS19 Cafe
Joan a Tom - stondin Cymorth Cristnogol
Joan a Tom - stondin Cymorth Cristnogol

DAFYDD IWAN yn canu ac yn sôn am gefndir ei ganeuon heddwch wrth y 150 yn Heol Awst

Cafodd cynllun Llywodraeth Prydain i wario £50 miliwn dros bum mlynedd ar greu mwy o unedau cadéts milwrol mewn ysgolion ei feirniadu’n llym yn y cyfarfod yn Heol Awst. Pasiwyd cynnig mewn cyfarfod a drefnwyd gan y Cyfundeb, ond lle'r oedd nifer o bobol eraill yn bresennol, yn galw am wario’r arian ar godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r angen i hyrwyddo heddwch. “Byddai gwario’r miliynau o bunnau ar hyrwyddo diwylliant heddwch yn helpu magu dinasyddion creadigol a heddychlon ar gyfer y dyfodol,” meddai’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor. Ategwyd y neges gan Dafydd Iwan trwy rhai o’i ganeuon a’r Prifardd Aneirin Karadog a fu’n darllen y dilyniant o gerddi a enillodd cadair Prifwyl y Fenni. 

GWNEWCH HYN..

Cyhoeddi llyfr newydd

Condemnio gwario £50m ar ffurfio unedau cadets milwrol mewn ysgolion

CANNOEDD MEWN SUL SBESIAL ARBENNIG IAWN! Ysgol Bro Myrddin, 10 Gorffennaf


***Mae hanes rhai pobol o Sir Gâr ymfudodd i Batagonia yn yr adran Deunydd ar y wefan hon.***

Double-click here to add your own text.

Mae Luned Roberts de Gonzalez o’r Chubut (uchod) yn un o arwyr cyfoes y Wladfa. Bu’n brifathrawes Colegio Camwy yn y Gaiman o 1963-2002, gan gyflwyno’r Gymraeg fel testun ail-iaith yn yr ysgol yn 1996.

Mae'n dal i drefnu gwersi a gweithgarwch trwy gyfrwng y Gymraeg i blant ac oedolion.Ymwelodd â Chymru droeon ac mae’n aelod o’r Orsedd.


Tra’n ymweld â’r amgueddfa yn Abergwili fis dwetha, fe wnaeth Luned recordio cyfarchion arbennig i’r SUL SBESIAL a dymuno’n dda i Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin.


ISOD: Y plant iau yn y Bwrlwm Bro gyda MARTYN GERAINT

PAM PATAGONIA? oedd testun ein Sul Sbesial eleni yn yr Halliwell, Coleg y Drindod Dewi Sant. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd i glywed byr-hanes Michael D. Jones 'Tad y Wladfa' a fu'n weinidog ym Mwlchnewydd a Gibeon; hanesion rhai o'r bobol o Sir Gâr ymfudodd yno, gan aelodau'r ysgolion Sul; Elen Davies yn sôn am ei blwyddyn fel athrawes ym Mhatagonia; ac Elvey McDonald, a gafodd ei eni a'i fagu yno.

Bu Dorothy Bere yn arwain sesiwn gyda'r bobol ifanc. Llywyddwyd gan y Parchg Iwan Vaughan Evans a chyfeiliwyd gan Geraint Rees.

Diolch o galon i bawb a fu'n cymryd rhan, ac i Martyn Geraint am arwain y BWRLWM BRO gyda'r plant.

Martyn Geraint yn y BWRLWM BRO gyda'r plant
DOROTHY BERE yn trafod gyda'r bobol ifanc
ELVEY McDONALD
ELEN DAVIES
Annalyn Davies a Stondin y Cyfundeb
Cwrdd Chwarter Bwlch-y-Corn
Cwrdd Chwarter Gwernogle
Cwrdd Chwarter Capel Cendy
Apêl Haiti: Manon Defis a'r Parchg Ken Williams
CWRDD CHWARTER SMYRNA, MAWRTH 2015
Cymanfa Bwnc Bwlchnewydd
Dyfalwch destun pwnc y plant ym Mhant-teg!

CYNGOR YR UNDEB

GREGYNOG, POWYS


Tri chynrychiolydd o'r Cyfundeb yng Nghyngor Undeb yr Annibynwyr: Joan Thomas (dde, yn cyflwyno adroddiad o waith y Cyfundeb), Annalyn Davies a'r Parchg Guto Llywelyn.

Roedd y Parchg Aled Jones ac Alun Lenny yno hefyd yn rhinwedd eu swyddi gyda'r Coleg

a'r Undeb.


BETH YW'R CYFUNDEB?


Teulu o 42 o eglwysi Annibynnol


Mae 3,000 o aelodau yn y capeli


Mae 12 gweinidog mewn gofalaethau


Y Cwrdd Chwarter yw man cyfarfod y Cyfundeb


Trafodir materion ysbrydol, gweinyddol a chymdeithasol


Mae'n gyswllt pwysig rhwng yr eglwysi a'r Undeb


Mae'n meithrin gweinidogion a phregethwyr


Mae'n cyhoeddi cylchlythyr Gyda'n Gilydd


a llawer mwy...


Am gymorth i greu gwefan i'ch capel chi?   Cysylltwch ag Alun Lenny  alunlenny@hotmail.co.uk


Mae'r broses o sefydlu gwefan syml yn cymryd cwpwl o oriau'n unig - ac yn rhad dros ben!


Dyma enghraifft ddiweddar o wefan capel: tabernacl.co    ac un o Facebook: Bwlchycorn

50 Mlynedd Yn Y Weinidogaeth!


Mae’r Parchg Emyr Lyn Evans newydd ddathlu hanner canrif yn y weinidogaeth. Bu cwrdd arbennig yn Ebeneser, Abergwili ar 12 Hydref i nodi’r achlysur, yng nghwmni cynulleidfa fawr. 


Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Llandysul bu’n gweithio yn Llundain am gyfnod, cyn dod nôl i Goleg Abertawe yn 1959 gyda’i fryd ar fynd i’r weinidogaeth. Cafodd ei ordeinio a’i sefydlu yn weinidog ar ofalaeth Waungoleugoed, Llanelwy, Ffordd-las a’r Green yn Nyffryn Clwyd.  Atebodd alwad i fod yn weinidog Ffynnon Bedr a Gibeon yn ardal Meidrim yn 1966. Symudodd Emyr Lyn i Abergwili yn 1976 fel gweinidog Ebeneser, Pant-teg a Libanus.

Ychwanegwyd Horeb a Siloam at yr ofalaeth yn 1982.


Cofiwch ddarllen cyfweIiad Iwan Evans gyda’r Parchg Emyr Lyn Evans yn y Cwlwm neu’r Tyst.


Rhan o'r dorf o bron i 200 o blant, bobol ifanc ac oedolion mewn Sul Sbesial iawn ym mhafiliwn sioe Pont-ar-gothi ar 13 Gorffennaf. Llywyddwyd gan Annalyn Davies, Cadeirydd y Cyfundeb. Marged Ann Smith a Siwan Howell o Ysgol Sul Peniel fu'n darllen ac yn gweddïo, a chafwyd eitem fywiog gan blant Ysgol Sul Siloam. Cyfeiliwyd gan Enfys Howells. Yn dilyn y rhannau agoriadol, fe aeth y plant i'r Bwrlwm Bro a drefnwyd gan MIC yn y neuadd gyfagos. Ar y diwedd aeth pawb i'r neuadd i gael paned a chlonc. Diolch i'r Annibynwyr lleol am stiwardio a pharatoi'r te, ac i bawb arall a gyfrannodd ymhob ffordd tuag at lwyddiant yr achlysur cofiadwy hwn.

CYMOD oedd thema'r Sul Sbesial ar achlysur Canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd MERERID HOPWOOD wedi dod â Llyfr Gwyn Caerfyrddin i'w arwyddo.

 

Yn ei anerchiad, soniodd am yr arian sy'n cael ei fuddsoddi yn y diwydiant arfau, a pha mor anodd yw hi i ni fyw fel yr hoffem ni, heb gyfrannu tuag at adeiladu arfau rhyfel trwy fuddsoddion pensiwn a threth.

 

Byddai'n haws cilio o'r byd a'i broblemau i ben mynydd. Dyna wnaeth Iesu. Ond cilio er mwyn cael nerth i ddod nôl i ganol bobl wnaeth e, meddai Mererid. Dylem gofio hynny wrth weddio "Deled dy deyrnas...megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd." Rhaid i ni feddwl sut allwn ni fod yn rhan o'r ateb i'r dymuniad yna, gan geisio'r reddf sy'n y natur ddynol i gydfyw'n cytun.

 

NEGES ARSWYDUS Y TELEGRAM O'R SWYDDFA RYFEL

 

Profiad fythgofiadwy i bawb yn y Sul Sbesial oedd gweld WYNFORD ELLIS OWEN yn actio rhan tad wrth dderbyn telegram yn dweud bod ei fab wedi ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Roedd y fonolog yn cynnwys cyfeiriadau ar yr hyn ddywedodd rhai o weinidogion yr Annibynwyr yn Y Tyst, wrth annog dynion ifanc i fynd i'r lladdfa yn Ffrainc: "Fechgyn ieuanc, ymfyddinwch, ac na adewch i ryddid eich gwlad, diogelwch eich teuluoedd, a'ch breintiau crefyddol gael eu hysbeilio."

 

Cyfeiriodd hefyd at un o gerddi Niclas y Glais: "Cwerylon y mawrion am aur, Cwerylon y beilchion am dir / Orfoda'r milwr i ladd ei frawd, ac erys y graith yn hir."

 

Roedd llygaid sawl un yn llaith wrth i Wynford gyfleu torcalon y tad. Trueni na fyddai pawb sy'n dal i gredu bod modd cyfiawnhau creulondeb a gwastraff rhyfel yno i'w glywed.


RHAID DI-RAMANTEIDDIO RHYFEL - Parchg Guto Prys ap Gwynfor

 

Mae rhyfel yn cael ei bortreadu fel rhywbeth rhamantus, sy'n llawn antur i nifer

o bobol ifanc. Rhaid chwalu'r agwedd yna, a diramanteiddio rhyfel. Dyna oedd craidd neges y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod. 

 

"Mae rhyfel yn beiriant i ladd pobol," meddai."Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, milwyr a morwyr oedd y mwyafrif o'r bobol a laddwyd. Ond yn yr Ail Ryfel Byd, bu farw miliynau lawer yn fwy o bobol gyffredin."  Wrth gyfeirio at yr ymladd presennol yn Gaza, dywedodd bod rhyfel yn achosi poen, atgasedd a'r awydd am ddial. Dim ond trwy barchu a deall ffyrdd ac agweddau pobol eraill a chydnabod eu bo nhw wahanol y daw tangnefedd. Dywedodd Guto bod $1.75,000 o filiynau yn cael ei wario ar arfau gan wledydd y byd. Byddai canran fechan iawn o hynny yn ddigon i ddileu newyn ledled y byd. NAWR yw'r amser i sefyll dros heddwch a thros ffordd tangnefedd, meddai.


GWEINIDOG AR GEFN BEIC O GEFN BRITH I DŶ JOHN PENRI

Mae'n hanner can milltir o Gefn Brith, man geni John Penri ger Llangamarch ym Mhowys, i Dŷ John Penri, swyddfeydd Undeb yr Annibynwyr ar gyrion Abertawe. Fe seiclodd y Parchg Ken Williams, gweinidog Peniel a Bwlch-y-corn, yr holl ffordd er mwyn codi arian at Apêl Haiti. Tipyn o gamp - yn enwedig o gofio ei fod wedi croesi oed yr addewid!



Bu’n ymarfer ers misoedd ar gyfer y daith, gan feicio mewn pob tywydd. “Pan oedd y rhiwiau’n serth, rown ni’n cofio pam rown ni’n gwneud hyn, ac yn gweiddi ‘Haiti!’ er mwyn cael nerth!” meddai.”Fy mwriad oedd tynnu sylw at yr apêl, ac fe wnes i fwynhau’r daith yn fawr iawn."


Cafodd Ken gwmni un o'i ddiaconiaid, Huw Jones o Beniel, ar y daith o Gefn Brith i Landeilo, ac yna Manon Defis o Gaerfyrddin (isod) o Landeilo i Abertawe.


COFIWCH: Mae'r Apêl ar agor tan diwedd 2014


Chwith: Jean Lewis a Muriel Bowen Evans (fu'n gyrru'r cerbyd 'back-up!) gyda John Davies, disgynnydd i John Penri yn ydlan Cefn Brith. Uchod: Eileen Jones o Beniel gyda'r cerddwyr o Gefn Brith i Dirabad - pellder o bum milltir. Da iawn yn wir, a hithau dros ei 80 oed.


MWY AM Y DAITH: http://www.annibynwyr.org/6358.html


PRIODASAU UNRHYW: YSGRIFENNYDD Y CYFUNDEB YN ESBONIO'R BROSES

FFERMDY HYNAFOL CEFN BRITH.

Mae llawer yn ystyried mai John Penri, o ffermdy Cefn-Brith ger Llangamarch, Powys oedd Annibynnwr cyntaf Cymru. Treuliodd ei oes fer yn ymgyrchu dros wella safon pregethu yng Nghymru, gan ennyn dicter Archesgob Caergaint. Cafodd ei grogi fel bradwr yn Llundain ar Fai 29, 1593. Roedd yn 29 oed ac yn ddyn priod, gyda phedair o ferched bach.

CAFWYD ESBONIAD MANWL AM SUT I YMDOPI Â'R TESTUN SENSITIF HWN GAN Y PARCHG ALED JONES YN Y CWRDD CHWARTER YM MWLCH-Y-CORN. ROEDD YN ARWEINIAD GWERTHFAWR DROS BEN, AC YN DANGOS GWERTH YMARFEROL MYNYCHU CWRDD CHWARTER. DYMA RHAI O'R PRIF BWYNTIAU:


  • Dylai pob eglwys drafod y mater yn fanwl mewn Cwrdd Eglwys. Nid oes hawl cyfreithiol gan weinidog na diaconiaid i benderfynu ar ran eglwys.


  • Rhaid trafod mewn ysbryd gweddigar, yn ôl ein dealltwriaeth ni fel Cristnogion o ystyr priodas.  Dim ond yr aelodau sy'n bresennol all bleidleisio, trwy godi llaw neu bleidlais gudd ar bapurau sy'n cael eu dosbarthu a'u casglu yn y Cwrdd Eglwys. Unwaith eto, mae hwn yn fater cyfreithiol.


  • Nid oes gorfodaeth ar weinidog i weinyddu priodas o'r un rhyw, beth bynnag yw penderfyniad yr eglwys.  Nid oes rhaid i eglwys benderfynu yn y cyfarfod cyntaf;  gellir trafod drachefn.


  • Pan gwneir penderfyniad, rhaid hysbysu'r Ymddiriedolwyr.


  • Mae Pwyllgor Bugeiliol y Cyfundeb yn barod i helpu eglwys wrth drafod.     

Nid oes brys mawr i benderfynu, ond dylid gwneud cyn i gais bosib ddod.

Yn y pulpud Alun Lenny gyda'r Parchg Tom Defis, Cadeirydd Pwyllgor Bugeiliol y Cyfundeb a fu'n gyfrifol am y Neilltuo. Chwith-dde: Parchg Andrew Lenny, Geraint Evans (diacon), Parchg Ddr Geraint Tudur, Parchg Guto Llywelyn, Parchg Ddr Edwin C. Lewis (diacon), Annalyn Davies (Cadeirydd y Cyfundeb), Parchg Beti-Wyn James, Delyth John (organyddes), Parchg Felix Aubel, Gwyn Elfyn (Arweinydd Capel Seion, Drefach) a'r Parchg Ken Williams (gweinidog Bwlch-y-corn a Peniel).

NOSON NEILLTUO'R ARWEINYDD

CYNTAF YN Y CYFUNDEB

Ar nos Iau, Mawrth 20, cafodd Alun Lenny ei neilltuo yn Arweinydd yng nghapel Bwlch-y-corn, ger Rhydargaeau. Bwriad cynllun yr Annibynwyr yw annog aelodau i gynnig eu hunain i fod yn Arweinyddion, naill ai mewn eglwys sydd heb gweinidog, neu i ysgafnhau baich gweinidog sydd â sawl eglwys mewn gofalaeth. Y nod yw helpu datblygu oedfaon a gweithgarwch gwahanol, gyda phwyslais ar bontio gyda'r gymuned.  Bu'r oedfa ym Mwlch-y-corn yn un fendithiol iawn  gyda chynulleidfa sylweddol yno o bell ac agos. Cafwyd pregeth rymus gan y Parchg Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr ar y thema 'Dathlu'. Bu'r plant hefyd yn cymryd rhan, a chafwyd mwynhad mawr wrth gymdeithasu dros fwyd yn y festri wedyn.

SUL SBESIAL IAWN YN NREFACH FELINDRE  Lansio Apêl Haiti, a llawer mwy...

Daeth torf o tua 200 o bobl o bob oed i Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre ar bnawn heulog 14 Gorffennaf. Uchafbwynt yr achlysur oedd lansio Apêl Haiti yn y Cyfundeb gan Elenid Jones (llun, isod). Bydd pecynnau adnoddau

yn cyrraedd yr eglwysi ym mis Medi. Am fwy o fanylion, ewch i Gyda'n Gilydd. Cafwyd cyflwyniad difyr dros ben am Y Traddodiad Cristnogol yn ardal Drefach Felindre gan un o feibion y fro, Peter Hughes Griffiths (isod). Arweiniwyd y gweithgarwch gan y Parchg Aled Jones, a chyfeiliwyd gan Gweirydd Davies. Bu nifer o blant yr ysgolion Sul lleol yn cyflwyno'r rhannau rhagarweiniol. Arweiniwyd sesiwn y plant gan Nigel Davies a sesiwn y bobl ifanc gan Aled Pickard. Roedd cwpaned o de ar y diwedd. Diolch i Drefach am y croeso, ac i bawb a gyfrannodd at Sul Sbesial arall!

(Lluniau: Alun Lenny)

   Gweinidog newydd y Cyfundeb, y Parchg Guto Llywelyn, yn cael ei groesawu

   gan Lywydd Undeb yr Annibynwyr, y Parchg Ron Williams mewn oedfa yn

   ystod Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ym Mangor.

https://golwg.360.cymru/newyddion/2006312-gweinidog-caerfyrddin-cynnal-oedfa-gyrru-mewn?fbclid=IwAR3ee76YM8EDArZc4JPTEWOnX9NeuwEO0LyxL0ae7pC6mWXE2-3R8plTxJQ