Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin
Teulu o Eglwysi Cristnogol Cymraeg
Dathlwyd llwyddiant Sioned Page-Jones yng nghapel Blaenycoed am ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023 yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr a gynhaliwyd yn Llanymddyfri.
Caiff y tlws ei gyflwyno yn flynyddol i wirfoddolwr arbennig fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru. Cafodd ei henwebu gan aelodau Aelwyd Hafodwenog ar ran holl bobol ifanc Sir Gâr sydd wedi elwa o’i chefnogaeth a’i gwaith ieuenctid gwirfoddol, sy’n ymestyn dros 26 mlynedd.
Ynghyd â bod yn Arweinydd yr Aelwyd, cafodd hi flas ar hyfforddi yn 1997, wrth baratoi’r Parti Deusain dan 15 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, ac mae sawl cenhedlaeth wedi elwa ar ei phrofiad ers hynny. Daeth hi’n Arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont pan gafodd y clwb ei ailsefydlu yn 2004, gan sefydlu Côr Cymysg am y tro cyntaf yn ei hanes. Deunaw mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n dal wrth y llyw ac wedi hyfforddi ac arwain y Côr Cymysg i lwyddiannau mawr ar lwyfannau Eisteddfod CFfI Cymru.
Mae angerdd Sioned am faes y Ddawns Werin a Dawns y Glocsen yn heintus, ac mae wedi hyfforddi degau o grwpiau ac unigolion dawnsio a chlocsio yn enw Aelwyd Hafodwenog, Dawnswyr Talog a Chlocswyr Cowin dros y blynyddoedd.
Fel Cyfundeb hefyd, mae ein dyled yn fawr iawn i Sioned am ei gwaith sylweddol yn trefnu cyfrannwyr a chyfarwyddo Cyflwyniad Croeso Undeb 2022 ar lwyfan Theatr Halliwell.
Am ymweld â phob capel yng Nghymru!
Breuddwyd Eglwys Corea Cymru yw ymweld â phob capel yng Nghymru. A hynny er mwyn talu nôl i ni’r Cymry am bopeth a wnaeth y cenhadon Cymreig yn mynd a Christnogaeth i Corea yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae hanes y cenhadon Cymreig yn un hollol rhyfeddol a gellir ei ddarllen mewn llyfrau ac amryw lefydd ar y rhyngrywd.
Ac mae gan Eglwys Corea Cymru un capel yn llai i ymweld ag ef bellach, a hynny ar ôl iddynt fod gyda ni yn y Tabernacl, Hendy-gwyn. Cafwyd oedfa fythgofiadwy ganddynt, ac roedd dros 100 yn bresennol gyda nifer wedi ymuno gyda ni o gapeli ac eglwysi'r ardal.
Cymdeithasu hyfryd
Roedd yr oedfa wedi selio ar hanes y cenhadon Cymreig a’r testun oedd geiriau Iesu yn Efengyl Ioan 12:24 : Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth.
Yn dilyn yr oedfa cafwyd cymdeithasu hyfryd dros baned a lluniaeth ysgafn ac aeth y cymdeithasu ymlaen am amser hir gyda neb yn awyddus i fynd adref!
Gwahoddiad
Beth am wahodd Eglwys Corea Cymru (sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd) i’ch capel chi ? Byddant yn falch clywed wrthych a gellir cysylltu gyda nhw trwy e-bostio Jacob ar deodian1006@gmail.com neu trwy tecst neu alwad ffôn ar 07891 932 478.
'Newyddion braf a ddaeth i'n bro...' a diolch amdano!
ORDEINIO GWEINIDOG NEWYDD I'R CYFUNDEB
Y Parchg GARETH IOAN
Ynghanol y pandemig, mae Duw yn dal i alw pobl i’w wasanaethu. Ar ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd, cafodd Gareth Ioan ei ordeinio yn weinidog i Iesu Grist yng nghapel Nanternis ger Cei Newydd. Bydd e hefyd yn gwasanaethu tair eglwys wledig yn ein Cyfundeb, sef Bryn Iwan (y bu’n ei bugeilio ers y llynedd) Blaenycoed a Moreia, Blaenwaun. Oherwydd yr haint, cyfyngwyd ar nifer y gynulleidfa, ond bu’n oedfa hyfryd dros ben, meddai Gareth, a dalodd deyrnged i’r Parchedigion Aled Jones a Guto Prys ap Gwynfor o Goleg yr Annibynwyr. Bydd cyrddau sefydlu yn cael eu cynnal yn yr eglwysi y flwyddyn nesaf, pan fydd yr haint wedi gostwng. Mae Gareth yn dilyn ei dad, y diweddar Barchg John Pinion Jones, i'r weinidogaeth. Dymunwn bob bendith iddo fe a’r bedair eglwys ar ddechrau cyfnod newydd yn eu hanes.
Rhes flaen: Y Parchg Aled D. Jones (Coleg yr Annibynwyr), Karine Davies, Cadeirydd Cyfundeb Ceredigion ac Elonwy Phillips, Cadeirydd Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin. Yn y pulpud: Y Parchg Gareth Ioan gyda’i wraig Sian a’u meibion Morys a Meilyr. (Mae eu merch, Marged, mewn prifysgol yn Glasgow.) Llun: Parchg Guto Prys ap Gwynfor
Y TORIAD FYDD YN TARO’R TLAWD
Mae Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin wedi ymuno yn y feirniadaeth hallt o fwriad y Canghellor Rishi Sunak i dorri cymorth tramor i wledydd sy'n datblygu yn 2021. Er fod y llywodraeth Geidwadol wedi ymrwymo i wario 0.7% o Incwm Domestig Gros (GDI) ar gymorth tramor, cyhoeddodd Mr Sunak fod hyn i’w dorri i 0.5%, oherwydd y faich ariannol o ddelio â Covid-19.
Yn ei Gwrdd Chwarter rhithiol fe glywodd y Cyfundeb y gallai degau o filoedd o bobl mewn gwledydd tlawd – plant yn bennaf – farw o ganlyniad i’r toriad.
Mae ugeiniau o elusennau, sydd wedi dioddef gostyngiad sylweddol iawn yn eu hincwm oherwydd trafferth cynnal gweithgarwch i godi arian yn ystod y pandemig eleni, hefyd wedi beirniadu penderfyniad y Canghellor. Yn eu plith mae Cymorth Cristnogol, sy’n dweud mai’r bobl mwyaf tlawd a bregus yn y byd fydd yn dioddef.
Beth sy’n rhwbio halen yn y briw yw’r sôn bod y £4 biliwn o arbediad eisoes wedi ei neilltuo ar gyfer cynyddu gwariant ar arfau ac amddiffyn.
DAU HANNER BRAWD
Bu'r perfformiad diweddaraf yn Y Lyric gan Gwmni Myrddin yn llwyddiant ysgubol unwaith eto.
Yr awdur a'r cynhyrchydd oedd Nan Lewis, ac Eric Jones oedd y cyfansoddwr. Mae'n amhosib mesur ein hedmygedd o waith Nan, yn cynhyrchu'r fath gyflwyniadau dro ar ôl tro.
Hanes o ddyfnder yr Hen Destament, ond gyda neges eithriadol o amserol i'n hoes ni oedd drama gerdd Dau Hanner Brawd - sef Ismael ac Isaac.
Tra'n cydnabod Abraham fel eu tad, mae'r Iddewon yn arddel Isaac, a'r Mwslemiaid Ismael. Mae'r casineb sy'n cael ei gyfleu yn yr hanes yn Genesis yn parhau tan heddiw.
Y prif gymeriadau: Dafydd Llŷr Davies (Abraham), Helen Gibbon (Sara), Sioned Beynon (Hagar), Janice Williams (Dorcas), Ann Evans (Miriam), Dafi Davies (Nachor), Caian Evans (Ismael yn blentyn), Owen Cray (Ismael hŷn) Morgan Cray (Isaac yn blentyn), Dafydd Wyn Davies (Isaac hŷn) a Wyn Mashell (Negesydd/Offeiriad). Sioned Evans oedd y cyfarwyddwr cerdd.
Llongyfarchiadau mawr i bawb. Roedd y cannoedd ddaeth i'w gweld wedi cael mwynhau a chael ysbrydoliaeth eithriadol.
DECHRAU CANU YN Y PRIORDY
Fe ffilmiwyd un o’r rhaglenni mwyaf hirhoedlog ar deledu Prydain yng nghapel Y Priordy, Caerfyrddin ar nos Wener, Mawrth 23. Darlledwyd Dechrau Canu Dechrau Canmol gyntaf o Gapel y Drindod, Sgeti yn 1961, gyda’r Parchg Gwilym ap Robert yn cyflwyno, â'r cyfansoddwr enwog Mansel Thomas yn arwain y gân. Yn sgil llwyddiant y rhaglen Gymraeg, penderfynodd y BBC ddechrau rhaglen Saesneg tebyg, sef Songs of Praise.
Llinell gyntaf un o emynau Pantycelyn roddodd deitl i’r rhaglen:
Dechrau canu, dechrau canmol / Ymhen mil o filoedd maith…
Roedd capel Y Priordy yn llawn ar gyfer y canu. “Er bod y traddodiad o ganu cynulleidfaol mewn Cymanfa wedi chwarae rhan fawr ym mywyd y capeli Cymraeg, nid tasg hawdd yw denu cynulleidfa i gefnogi’r fath achlysur mewn capel, eglwys neu fan y tu allan i le addoli yn yr oes hon,” meddai’r Parchg Beti-Wyn James. “Llawenydd mawr felly, oedd gweld cymaint o bobl wedi ymuno mewn noson yn Y Priordy, Caerfyrddin i recordio deg o emynau ar gyfer dwy raglen yn y gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol. Roedd y capel yn gyfforddus lawn a’r canu yn afieithus o’r nodyn cyntaf hyd yr olaf. Roedd yr hen benseiri yn gwybod yn iawn beth roeddynt yn eu gwneud wrth gynllunio ac adeiladu capeli, sy’n darparu ar gyfer canu cynulleidfaol a’r acŵstics yn berffaith.”
Meirion Wynne Jones oedd wrth yr organ a Meinir Richards, Pennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin oedd yn arwain y canu, a hynny yn ei ffordd hwylus arferol. Hi yw arweinydd Côr Llanddarog a Chorau Hŷn Ysgol Bro Myrddin, corau sydd wedi profi cryn lwyddiant ar y llwyfan cenedlaethol. Recordiwyd eitemau gan y ddau gôr yn gynt yn y dydd a fydd yn ymddangos ar y ddwy raglen a ffilmiwyd yn Y Priordy.
Bydd y rhaglen gyntaf ar y thema Ffoaduriaid yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul, 3 Mehefin am 7.30 a’r ail raglen ar y thema Y Beibl i’w gweld yn nes mlaen yn y flwyddyn.
Dymuna’r Parchg Beti-Wyn James ddiolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi’r noson. Cafwyd noson a fydd yn aros yn y cof am amser hir, ac edrychwn ymlaen at weld y rhaglen ddechrau Mehefin.
FFOADURIAID: DERBYN CYNNIG Y CYFUNDEB
ACHLYSUR MWYAF BLWYDDYN Y BEIBL BYW
Bu’r Sul Sbesial yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y Cyfundeb ers 2007. Eleni, am y tro cyntaf, fe’i drefnwyd ar y cyd gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid ar draws Sir Gâr – yn neuadd Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Bu’r ymateb yn ysgubol, gyda thua 700 o bobl yn llanw’r neuadd.
Bu'n achlysur yn bywiog a chyfoes. Ar ôl agor gydag emyn, cafwyd fideo am “Beibl Mari Jones yn dychwelyd i’r Bala” oddi ar Teledu Annibynwyr. www.youtube.com/watch?v=kWLtCqAsRuI
Cafwyd cyflwyniad bywiog gan bobl ifanc eglwysi’r Priordy a Heol Awst, o dan ofal y Parchg Beti-Wyn James. Roedd yn darlunio Iesu’n galw’i ddisgyblion o blith y pysgotwyr, ac yn cynnwys cân rap gan y merched!
Y gŵr gwadd oedd Arfon Jones (beibl.net). Cafodd pawb hwyl fawr wrth weld a chlywed dyrnaid o wirfoddolwyr o blith y plant lleiaf yn ei gynorthwyo i esbonio’r gwahaniaeth rhwng tywyllwch a goleuni. Arweiniodd hynny’n naturiol i mewn i neges Arfon am y modd y mae agor y Beibl yn dod â goleuni i’n bywydau ninnau, gan yrru allan y pethau tywyll sydd ymhob un ohonom. Gorffennodd gyda gweddi.
Band Penuel, Caerfyrddin fu’n cyfeilio. Cafwyd gair o groeso gan y Parchg Guto Llywelyn a thraddodwyd y fendith gan y Parchg Ifan Roberts. Yna, roedd cyfle i bawb cael cwpaned cyn ymadael. Diolch i bawb fu’n trefnu, yn cymryd rhan, yn hwylio’r te ac yn hyfforddi’r plant. A diolch hefyd i Ysgol Bro Myrddin am agor ei ddrysau i’r Sul Sbesial.
Yn sicr, bu’n achlysur teilwng iawn i nodi Blwyddyn y Beibl Byw.
Cwrs y Cymun - Llwyddiant Mawr
Mae’n destun pryder nad yw’r cymun yn cael ei weinyddu’n reolaidd mewn nifer gynyddol o gapeli oherwydd prinder gweinidogion neu bregethwr cynorthwyol.
Eto, yn ein traddodiad ni’r Annibynwyr mae hawl gan unrhyw aelod sy’n dderbyniol gan y gynulleidfa leol i weinyddu wrth fwrdd y cymun. Ond, wrth reswm, mae disgwyl i’r aelod hwnnw neu honno fod yn ymwybodol o ystyr y ddefod ac yn ddigon hyderus i ysgwyddo’r cyfrifoldeb.
Er mwyn helpu a hybu aelodau i weinyddu’r sacrament, cafodd cyfres fer o sesiynau hyfforddi eu cynnal gan y Parchg Aled Jones, Cydlynydd Hyfforddiant Coleg yr Annibynwyr yn ne Cymru.
Daeth bron i ugain o aelodau gwahanol gapeli’r sir at ei gilydd yn swyddfa’r Coleg yng Nghaerfyrddin i ddysgu mwy am weinyddu'r cymun gan Aled. Trafod pob agwedd o'r sacrament a bu’r ymateb yn hynod bositif a brwdfrydig. Y gobaith yw trefnu sesiynau pellach mewn rhannau eraill o Gymru fel bod eraill yn gallu elwa fel y gwnaeth pobl Sir Gâr.
PERFFORMIAD 'ESTHER' YN HUDO'R CANNOEDD YN Y LYRIC
Nifer fawr o aelodau'r Cyfundeb yn y cast
Nid oes pall ar allu anhygoel Nan Lewis i lunio dramau cerdd newydd sy'n siŵr o lanw'r Lyric bob nos. Yn dilyn llwyddiant cyflwyniad Merched y Wawr Rhanbarth Caerfyrddin yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, penderfynodd cnewllyn o'r cwmni ofyn i Nan i ysgrifennu sgript. Dewisodd hi hanes Esther o'r Hen Destament fel testun. Gwelir yma yr ysbryd hiliol a dialgar ar ei waethaf - sef yr union ysbryd sy'n bygwth ein byd ni heddiw.
Bu'r perfformiad yn llwyddiant ysgubol, gyda'r theatr - sydd â dros 650 o seddau - yn llawn dros ddwy noson o'r bron.
Am fwy o luniau, ewch i: https://www.facebook.com/alun.lenny/posts/994573203934929?pnref=story
SEFYLLFA BARCIO HUNLLEFUS YSBYTY GLANGWILI
Mae pawb yn hen gyfarwydd â'r problemau parcio yn Ysbyty Glangwili. Mae nifer fawr o bobl - rhai a fu'n aros misoedd i weld arbenigwr - yn methu cael lle i barcio ac yn colli'r apwyntiad.
Nawr, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi mesurau fydd yn creu 40 o lefydd parcio yn fuan, gyda'r gobaith o fwy yn y flwyddyn newydd.
Ar ôl clywed y newyddion, fe wnaeth y cynrychiolwyr yn y Cwrdd Chwarter ym Methlehem, Pwll-trap, St Clears basio'r CYNNIG yma:
Fel Cyfundeb o 42 o eglwysi Annibynnol sydd â bron i 3,000 o aelodau, rydym yn croesawi bwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gynyddu'r llefydd parcio ar gyfer cleifion allanol ac ymwelwyr yn Ysbyty Glangwili.
Mae’r sefyllfa’n hollol annerbyniol ar hyn o bryd, gyda channoedd o apwyntiadau yn cael eu colli bob mis am fod cleifion yn methu cael lle i barcio. Galwn arnoch i gadw at yr addewidion a wnaed yr wythnos yma er mwyn gwella'r sefyllfa cyn gynted â phosibl.
Byddwn fel eglwysi ac aelodau yn monitro'r sefyllfa gan ddisgwyl gweld gwelliant sylweddol yn gynnar yn 2016.
Diolch o flaen llaw am bob cymorth yn y mater yma.
PENDERFYNIADAU O'R CYFUNDEB I GYFARFODYDD BLYNYDDOL YR UNDEB YN NANT GWRTHEYRN, 2-4 GORFFENNAF 2015
GWARCHOD HAWLIAU DYNOL
Mae gan yr Annibynwyr Cymraeg hanes hir o sefyll dros les a hawliau pobl. Yn yr ysbryd hynny y pasiwyd cynnig yng Nghwrdd Chwarter Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin, yn Horeb ger Felingwm ar 14 Mai, i wrthwynebu’n gadarn bwriad llywodraeth Prydain i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Lluniwyd y Confensiwn Ewropeaidd i warchod hawliau dynol nôl yn 1950. Yn 1988, pasiodd senedd San Steffan y Ddeddf Hawliau Dynol, er mwyn ymgorffori'r hawliau hynny yng nghyfraith ddomestig y Deyrnas Unedig. Mae'r Ddeddf yn gwarchod ystod eang o hawliau, gan gynnwys rhyddid barn, cydwybod a chrefydd. Mae'n mynnu bod cyrff cyhoeddus fel yr heddlu, yr NHS, a chynghorau lleol yn parchu'r hawliau hynny. Ond nawr mae Llywodraeth y DU am ddileu'r Ddeddf a rhoi Mesur Hawliau Prydeinig yn ei lle. Ofnir y gallai hyn lastwreiddio hawliau dynol pobol Prydain. Cytunodd y Cwrdd Chwarter i:
1. alw ar lywodraeth y DU i ailystyried;
2. ofyn i Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn parhau mewn grym parthed materion sydd wedi eu datganoli yn unol a Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
3. ofyn i Cytûn gydlynu ymgyrch ymhlith yr eglwysi, mewn cytgord a mudiadau eraill lle bo hynny'n gymwys, o blaid cadw'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Cafodd y cynnig ei anfon ymlaen i Undeb yr Annibynwyr i’w ystyried yn ei Gyfarfodydd Blynyddol yn Nantgwrtheyrn ddechrau Gorffennaf.
RHWYDWAITH HEDDWCH
Cytunodd y Cwrdd Chwarter hefyd i alw ar yr Undeb i annog pob Cyfundeb i benodi swyddog cyswllt a fyddai'n gyfrifol am ysgogi a chydlynnu gweithgarwch i hybu heddwch a chymod ar lefel Cyfundeb, gofalaeth, ac eglwys, fel rhan o Rwydwaith Heddwch yr Undeb, a bod enw'r swyddog yna yn y Blwyddiadur.
Double-click here to add your own text.
Ymwelydd o Haiti yng Nghymru
Mae Apêl Undeb yr Annibynwyr tuag at waith Cymorth Cristnogol yn Haiti wedi codi tua £180,000. Mae pedair blynedd ers y ddaeargryn fawr yn Ionawr, 2010. Lladdwyd tua 150,000 o bobl a dinistriwyd chwarter miliwn o adeiladau – a hyn yn y wlad dlotaf yn y byd gorllewinol. Roedd PROSPERY RAYMOND, Rheolwr Cymorth Cristnogol yn Haiti, ar fin gadael ei swyddfa pan syrthiodd yr adeilad o’i gwmpas. Cafodd ei anafu’n ddrwg, a bu’n ffodus na chafodd ei ladd. Tra’n ymweld â Chymru yn ddiweddar, cafodd ei gyfweld gan Alun Lenny.
AL. Pa wahaniaeth mae gwaith Cymorth Cristnogol wedi ei wneud yn Haiti ers y ddaeargryn?
PR. Mae wedi gwella amodau byw nifer fawr o bobl. Mae miloedd yn byw mewn tai newydd diolch i brosiectau sy’n cael cefnogaeth Cymorth Cristnogol. Mae miloedd hefyd wedi cael dŵr glân. Meddyliwch am ferch ifanc oedd gynt yn gorfod cerdded 3-4 awr bob dydd jyst i gael dŵr, nawr yn medru cael dŵr 10medr o’i chartref. Golyga hyn bod amser ganddi nawr i fynd i’r ysgol, ac i gael gwell bywyd.
Llun: Prospery yn cael ei groesawi i Gaerfyrddin gan y Maer, y Cyng.Arwel Lloyd (sy’n aelod yn eglwys Annibynnol Brynrhiwgaled). Hefyd yn y llun mae’r Parchg Tom Defis, Cymorth Cristnogol.
Roedd daeargryn 2010 yn ddigwyddiad erchyll ac yn brofiad cas iawn i chi yn bersonol.
Oedd. Roeddwn yn adeilad Cymorth Cristnogol, a ddymchwelodd arnaf. Cefais fy nal mewn cornel a bron i mi farw. Roedd yn foment tywyll ac anodd iawn. Ond rwyn medru dangos fy niolchgarwch am ddod trwyddi wrth helpu eraill trwy waith Cymorth Cristnogol. Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru sydd wedi cyfrannu tuag at yr apêl, a thrwy hynny rhoi cyfle i mi helpu fy mrodyr a’m chwiorydd yn Haiti.
Beth am yr ymateb rhyngwladol i’r sefyllfa yn Haiti? Oes perygl bod trafferthion mawr y wlad yn sgil y ddaeargryn bellach yn anghof?
Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth ond mae llawer mwy i wneud. Mae bywyd yn galed iawn i tua miliwn o bobl o hyd. Bydd hi’n cymryd tua deng mlynedd i ni atgyweirio’r difrod gafodd ei wneud gan y ddaeargryn. Mae angen buddsoddi mewn addysg, iechyd, ffyrdd ac yn y blaen – yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf tlawd. Rydym yn gorfod herio cwmniau mawr, fel y banciau rhyngwladol, i fuddsoddi yn y llefydd iawn.
Beth am eich profiadau yng Nghymru?
Rwyf wedi mwynhau fy hun yn fawr. Rwy’n caru clywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad. Mae’n fy atgoffa o’r frwydr dros yr iaith Creol yn Haiti. Pan oeddwn yn yr ysgol, roeddent yn ceisio fy rhwystro rhag siarad Creol ac i siarad Ffrangeg yn unig. Ond nawr, mae gennyf ddwy ferch, a ma’ nhw yn siarad Creol yn dda. Rwy wedi dysgu rhai geiriau Cymraeg – Bore Da! Rwy wedi bod yn Hendy-Gwyn a chlywed am Hywel Dda a’r cyfreithiau Cymreig oedd yn rhoi pwyslais ar gyfiawnder yn hytrach na chosb. Ydw, rwyf wedi mwynhau.
Mae’n amlwg fod Prospery yn ddyn dewr ac ymroddedig. Mae e hefyd yn ysgrifennu blog i bapur newydd y Guardian. Ewch i: http://www.theguardian.com/profile/prospery-raymond
Plygain Capel Penygraig
Cafwyd noson ddymunol iawn yng nghapel Penygraig ar nos Wener, 16 Ionawr 2015, pryd y cynhaliwyd Gwasanaeth Plygain Agored. Gwasanaeth, yn ôl y traddodiad, sydd yn ‘agored i’r byd’ ydy hon, ac fe all unrhyw un gymryd rhan. Daeth nifer dda ynghyd gan gynnwys carolwyr o Benrhyncoch, Llandeilo, Llanddarog, Porthyrhyd, Pencader a Chaerfyrddin.
Dechreuwyd y gwasanaeth gyda charol i’r gynulleidfa ac yna cymerwyd at y rhannau arweiniol gan y gweinidog, y Parchg. Meirion Sewell. Wedi i’r gynulleidfa canu ail garol cyhoeddodd y gweinidog “Mae’r Blygain yn awr yn agored”.
Parti merched y capel, yn canu ‘Daeth Nadolig’, oedd yr eitem gyntaf o’r naw carol di-gyfeiliant yn y cylch cyntaf. Ar ddiwedd y cylch cafwyd carol cynulleidfaol arall ac yna bu’r carolwyr yn canu eu carolau yn yr ail gylch. Felly cafwyd deunaw o wahanol garolau di-gyfeiliant!
Ar ddiwedd yr ail gylch daeth y dynion ymlaen i ganu ‘Carol y Swper’ ac yna cafwyd carol i’r gynulleidfa. Yn ystod y garol olaf gwnaed casgliad tuag at Uned Gofal y Fron, Ysbyty Llanelli, er côf am Mrs Valerie James. Yna traddodwyd y fendith gan y gweinidog. ( Deil y casglaid ar agor am rhai wythnosau eto).
Yn unol a’r traddodiad, darparwyd swper yn y festri gan wragedd hawddgar Penygraig i bawb oedd yn dymuno ymgymryd ohono. Mawr fu’r canmol gan yr ymwelwyr am y trefniadau a’r paratoadau a phawb yn datgan mor fendithiol oedd bod mewn cyfryw gwasanaeth.
Dathlu 50 mlynedd yn y weinidogaeth
Mae'r Parchg J. Towyn Jones yn dathlu hanner canrif yn
y weinidogaeth. Bu am ddegawd yn Hebron a Nebo, Sir Benfro cyn derbyn galwad yn 1974 gan Heol Awst, Caerfyrddin. Ehangwyd yr ofalaeth i gynnwys Smyrna, Llangain yn 1976 ac Elim, Ffynnon-ddrain yn 1998.
I gydnabod ei waith diflino a chlodwiw ymhob un o’r eglwysi dros y cyfnod hwn, cynhaliwyd tair oedfa arbennig ar Sul y Pasg, 20 Ebrill yng nghapel Heol Awst. Bu Oedfa Gymun yn y bore ac, ar ôl cinio i bawb oedd yno, Oedfa Bregethu ac Oedfa Ddathlu yn y prynhawn, gyda te yn dilyn. Cafwyd diwrnod i'w gofio yn wir.
Dyma luniau gan Alun Lenny i gofnodi'r achlysur.
Y Parchg Tom Defis yn darllen yn yr Oedfa Bregethu. Ar y dde iddo yn y llun mae'r Parchg Wilbur Lloyd Roberts (a fu'n pregethu),
y Parchg Eirian Wyn (Gweddi), Angharad Edmunds (Ysbaid gerddorol ar y fiola) a'r Parchg Felix Aubel (Fendith).
Llywyddwyd gan y Parchg Emyr Lyn Evans. Cafwyd cyflwyniadau gan Orinda Roberts (llafar), Wyn Lodwick a June Parry Jones (clarinet ac acordion), Joshua Owen Mills, Jessica Roberts a Fflur Wyn (unawdwyr). Cyfarchwyd y Parchg Towyn Jones ar ran yr eglwysi gan Nigel George (Heol Awst), Gillian Edwards (Smyrna), Bet Jones (Elim), Marlene Jones (Soar, Penboyr), Eilyr Thomas (Hebron a Nebo) a Tom Lloyd Williams (eglwysi Cymraeg Llundain). Cyfeiliwyd gan Meirion Wynn Jones a'r technegydd sain oedd David Thomas. Cyflwynwyd tysteb i'w gweinidog gan eglwysi'r ofalaeth. Isod, rhan o'r gynulleidfa sylweddol yn Heol Awst.
MAE'R HALELWIA YN FY ENAID I
Oedfa o Fawl ar nos Sul y Blodau yng nghapel Y Priordy i ddathlu canmlwyddiant geni'r gweinidog a'r emynydd W.Rhys Nicholas 1914 – 1996. (Lluniau a geiriau: Alun Lenny)
Roedd y capel yn orlawn ar gyfer yr oedfa, lle canwyd nifer o'i emynau adnabyddus. Arweiniwyd y noson gan weinidog Y Priordy, y Parchg Beti-Wyn James ac arweiniwyd y canu gan Meirion Wynn Jones. Cyfeiliwyd gan Meinir Lloyd, Heather Williams, Iwan Evans a Gareth Gravelle. Roedd aelodau o deulu Rhys Nicholas hefyd yn bresennol.
Cafwyd crynodeb o hanes bywyd Rhys Nicholas gan y Parchg Beti-Wyn James. Fe’i ganwyd yn Nhegryn, Sir Benfro, yn un o naw o blant. Aeth i Goleg y Presby yng Nghaerfyrddin, sydd ergyd carreg o’r Priordy, a’i sefydlu’n weinidog gyda'r Annibynwyr yng nghapel Y Bryn, Llanelli yn 1947. Symudodd i Horeb a Bwlchygroes ger Llandysul yn 1952 ac yna i’r Tabernacl Porthcawl yn 1965, lle bu tan ei ymddeoliad yn 1983. “Bu’n fugail gofalus i’w bobol, ac yn fardd a roddodd i ni gyfoeth o gerddi, a’i gyfraniad i fyd emynyddiaeth yn fawr a gwerthfawr,” meddai’r Parchg Beti-Wyn.
Teyrnged yr Archdderwydd
Y Llywydd gwadd oedd yr Archdderwydd Christine James. Dywedodd fod Rhys Nicholas, fel emynydd a bardd, yn cydnabod mai Duw ei hun yw ffynhonell pob dawn creadigol, fel y canodd yn ei emyn:
Mawrygwn di, o Dduw / am bob celfyddyd gain,
Am harddwch ffurf a llun / am bob melyster sain.
Talodd yr Archdderwydd deyrnged iddo fel gweinidog, emynydd, bardd, awdur a golygydd dawnus a roddodd sglein i sawl cyhoeddiad Cymraeg. “Ef, yn ddios, oedd emynydd pwysica’r Gymraeg yn ail hanner yr 20fed ganrif. A thrwy ei emynau, fe wnaeth Rhys Nicholas gyfraniad mawr i Gristnogaeth yng Nghymru mewn cyfnod o drai cyffredinol yng nghrefydd ein gwlad. Mae ei emynau yn gyfoes, ac eto’n glasurol; mae’r iaith yn ffres ond byth yn ffwrdd a hi."
Cyfansoddodd Rhys Nicholas dros hanner cant o emynau, gan gynnwys y geiriau anfarwol i’r dôn 'Pantyfedwen' gan Eddie Evans, 'Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw”. Credai bod angen emynau cadarnhaol i fynegi llawenydd ffydd, i danio pobl ifanc ac oedolion, ac i godi'r to. A dyna ddigwyddodd yn Y Priordy, gyda chynulleidfa fawr o bob oed yn profi gwefr a bendith wrth ganu’r emynau a gwrando ar eitemau gan Elen Fflur a Sioned, Iestyn a Caspar, Ifan a Steffan, a’r Parti Merched. Ar ddiwedd noson i'w chofio, fe ymadawodd y gynulleidfa gyda chytgan emyn mawr Rhys Nicholas yn dal i atseinio yn eu clustiau:
‘Mae’r Halelwia yn fy enaid i, / A rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i ti.’
Codi swm sylweddol at y ‘Steddfod
Trwy werthu rhaglenni ar gyfer y noson, a gyda chymorth cynllun punt am bunt Banc Barclays (diolch i Mrs Mary Davies), llwyddwyd i godi £2,400 tuag at Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Cyflwynwyd englyn a gyfansoddwyd yn arbennig gan Tudur Dylan Jones i Mrs Davies i ddiolch iddi am ei gwaith yn trefnu nawdd punt am bunt i achosion da dros y blynyddoedd. Yn y llun (chwith-dde): Parchg Beti-Wyn James, yr Archdderwydd Christine James, Meirion Wynn Jones, Meinir Lloyd, Mary Davies, Peter Hughes Griffiths a Heather Williams.
PENIEL - DDOE, HEDDIW AC YFORY Cafwyd noson gofiadwy iawn yng nghapel Peniel i gyhoeddi llyfr newydd “Peniel Ddoe, Heddiw ac Yfory” ar nos Fercher 20fed Tachwedd. Llywyddwyd yn feistrolgar gan un o’r aelodau, Y Parchg John Gwilym Jones, oedd wedi ysgrifennu’r cyflwyniad i’r gyfrol. Cafwyd cyfraniadau gan Siân Elfyn, Arthur Morgan a Carys Davies, ac eitem gan blant a phobl ifanc yr ysgol Sul. Canwyd dau emyn o waith cyn-weinidogion Peniel, O Arglwydd gwna ni’n ffyddlon i’n hetifeddiaeth ddrud (Parchg T. Elfyn Jones) ac Anfeidrol Greawdwr a thad (S.B.Jones) ac emyn adnabyddus John Gwilym Jones Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn.
Dywedodd y Parch Ken Williams, gweinidog Peniel a Bwlchycorn, a Golygydd y gyfrol: 'Mae hwn yn fwy na llyfr hanes i aelodau eglwys a gofalaeth, gan fod ynddo ganllawiau ac awgrymiadau ar sut i gamu ymlaen yn llaw Duw i'r dyfodol. Rwyf wedi dysgu llawer am frwdfrydedd ac ymroddiad yr hynafiaid a fu'n cynnal ac yn arwain yr achos yn y bröydd hyn.”
(Llun: Alun Lenny)
Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchg Ron Williams, yn llongyfarch y Parchg Ddr Edwin Courtney Lewis ar ei gampwaith newydd- MIL A MWY O EMYNAU - yn ystod Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ym Mangor.
Heidiodd pobol o bell ac agos i noson gyhoeddi llyfr y Parchg Beti-Wyn James "A Wnaiff y Gwragedd...?" Roedd ystafell fawr Gwesty’r Llwyn Iorwg yn orlawn. UCHOD: Y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Euryn Ogwen Williams, y Parchg Beti-Wyn James, Sulwyn Thomas, Elinor Wyn Reynolds (yn gyflwyno'r llyfr ar ran Gomer), Peter Hughes Griffiths a'r Parchg Euros Wyn Jones.
ISOD: Rhan o'r gynulleidfa fawr - a naws o hwyl y noson!
_________________________________________________________________________________________________
CYNLLUN CYFFROUS I EGHANGU GWAITH BYDDIN YR IACHAWDWRIAETH YNG NGHAERFYRDDIN
Yng Nghwrdd Chwarter y Cyfundeb yn Ebeneser, Abergwili ganol mis Mawrth cyhoeddwyd manylion y cynllun i ehangu gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth, sydd â chanolfan yn Heol Awst, Caerfyrddin. Rheolwraig y ganolfan yw MELERI CRAY, sy'n aelod gweithgar yn eglwys annibynnol Siloam, Pont-ar-gothi.
Mae Meleri’n enedigol o Gynwyl Elfed, ac yn aelod gweithgar yn Siloam, Pontargothi bellach. Soniodd am William Booth yn dechrau'r Sally Army ym 1865. Mae bellach yn gweithredu mewn 126 gwlad. Yn gyffredinol, mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn ganolfan gymdeithasol, gyda siop elusen, yn rhoi cymorth adeg argyfwng ac yn gweithio mewn gwersylloedd ffoaduriaid. Yng Nghaerdydd mae Tŷ Gobaith, sy'n cynnig lle i 66 person digartref, gan roi hyfforddiant ac addysg iddynt. Yng Nghaerfyrddin, mae mwy a mwy o alw am gymorth, yn ymwneud â budd-daliadau etc. Mae yma siop elusen, caffi a chlwb brecwast bob bore Mawrth - Iau, 9.00 – 10.00 am ddim i'r rhai sydd angen cymdeithasu a thrafodaeth. Gan mai mudiad Cristnogol yw hwn, cynhelir oedfa fore Sul, am 10.30, a gweithgareddau Cristnogol yn ystod yr wythnos. Gwneir apeliadau: (i) adeg Nadolig am deganau i blant llai ffodus, gyda'u henwau yn dod o'r Gwasanaethau Cymdeithasol, a Chymorth i Fenywod; (ii) am fwyd i’w roi i'r rhai sy'n rhy dlawd i brynu bwyd. Gweithiant gyda Banc Bwyd Caerfyrddin, gan roi taleb i bobl gael digon o fwyd am dridiau ar y tro. Mae lle i gael cawod, a chyflenwant ddeunydd hylendid personol, sach gysgu, blanced, a dillad. Rhoddant gyngor, ac mae ganddynt amser i drafod, ac i weddio. Cynigiant brofiad gwaith a chyfle i wirfoddoli i'r bregus ac i unigolion gydag anghenion ychwanegol, yn ogystal a chymorth i gael lloches parhaol neu gartref. Rhaid defnyddio'r we yn aml y dyddiau hyn i lanw ffurflenni, a chynorthwyant bobl sy'n ymholi am fudd-daliadau ac yn gwneud ceisiadau am swyddi etc. Mae ganddynt tua 30 gwirfoddolwr, nifer ag anghenion arbennig, neu yn fregus, a gwelant hunan hyder y bobl hyn yn cynyddu gydag amser. Maent yn cyd-weithio gyda nifer o asiantaethau, fel Cymdeithas Tai Gwalia, y Banc Bwyd, tîm camddefnydd sylweddau, a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr. Eu gobaith am y dyfodol yw cael adeilad ychwanegol, drws nesaf i'r un presennol, i ehangu’r gwaith. Maent yn bwriadu cael nyrs i frechu yn erbyn hepatitis, rhoi cyngor ar fudd-daliadau, mwy o gyfrifiaduron, adnoddau ariannol ychwanegol drwy gyfrwng grantiau, symud yr eglwys, ehengu gwasanaeth y caffi a'r siop elusen, hybu bwydydd lleol drwy eu stocio a'u gwerthu yn rhad, creu swydd newydd ar y cyd â Chymdeithas Tai Gwalia, a chael dylanwad ar y rhai sy'n troseddu neu’n ymddwyn yn wrth-gymdeithasol. Mae angen gwirfoddolwyr yn y siop a'r caffi; i ddidoli dillad, bric-a-brac, llyfrau, a defnyddiau; glanhau, a gwneud gwaith gweinyddol; a phwysleisir bod yr oriau yn hyblyg. Gwerthfawrogir rhoddion, yn fwyd, arian, dillad, bric-a-brac, llyfrau, deunydd hylendid personol, a dillad gwely.
Pob llwyddiant iddi gyda'r fenter newydd! Llun isod: Meleri'n son am y gwaith gwerthfawr.
hawlfraint © cyfundeb AGC Sefydlwyd a lluniwyd y wefan hon trwy gymorth caredig Rhaglen Datblygu'r Annibynwyr