Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin
Teulu o Eglwysi Cristnogol Cymraeg
Mae'r CWRDD CHWARTER yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, gan fynd o gwmpas y capeli yn eu tro. Mae croeso i unrhyw aelod Annibynnol i fod yn bresennol. Dyma lais undebol Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin. Mae'r Cwrdd Chwarter yn trafod materion o bwys a diddordeb moesol a chymdeithasol, ac agweddau ysbrydol a gweinyddol eglwysi.
ANERCHIAD Y CADEIRYDD NEWYDD - Y Parchg Guto Prys ap Gwynfor
Profiadau felys-chwerw
Dechreuodd Guto ei anerchiad drwy sôn am ddatgorffori dwy eglwys mewn un oedfa yng Ngwynfe, sef Capel Maen a Jerwsalem. Teimlai brofiad dymunol o ddychwelyd i ardal ei fagwraeth, er yn annymunol oherwydd bod dwy eglwys a chwaraeodd ran yn ei gefndir ef a’i wraig, Sian, yn dod i ben. Soniodd am brofiadau’i fywyd, a’r hyn aeth trwy ei feddwl yn ystod yr oedfa ddatgorffori.
Cofio’r cenhadon
Cofiai am wefr y Gymanfa Ganu yng Nghapel Maen, a’r cenhadon a gododd y ddwy eglwys, sydd a chofebau iddynt ar wal y capel. Cyfeiriodd at David Griffiths y buom yn cofio amdano wrth i’r Undeb ddathlu gwaith y cenhadon ym Madagascar, ynghyd ag eraill o’i deulu. Teimlai’n drist nad yw pobl heddiw yn gwybod hanes cyfoethog eu hardaloedd a’r cyfraniad a wnaeth pobl yr ardal mewn gwahanol rannau o’r byd.
Gwendid y Gyfundrefn Addysg
‘Dyw’r gyfundrefn addysg ddim yn dysgu hyn yn yr ysgolion heddiw. Gwnaeth Anghydffurfiaeth a Christnogion gyfraniad mawr sydd yn mynd yn angof heddiw. Bu pobl yn y gorffennol yn brwydro am bethau a gymerwn ni heddiw yn ganiataol – y gwasanaeth iechyd, y wladwriaeth les, addysg rad i blant er mwyn iddynt ddysgu darllen y Beibl. Y gydwybod Anghydffurfiol oedd yn gyfrifol amdanynt. Gweinidog yng Ngwynfe, adeg codi nifer o’r cenhadon yn ystod y 1880au, William Thomas, oedd yn gyfrifol am sefydlu’r ‘British School’ yng Ngwynfe. Yr Annibynwyr oedd yn gyfrifol am sefydlu democratiaeth yn yr oes fodern, gan bwysleisio fod pob aelod o’r un gwerth, a chanddynt yr un hawliau o fewn yr eglwys, yn ogystal â brwydro i bob oedolyn dros 18 gael pleidleisio. Oni ddywedodd Iesu “Ewch a dywedwch amdanaf”, a dyna yw’n cyfrifoldeb a’n braint ni heddiw, sef adrodd yr hanes. Yn ystod y Cymun a oedd i ddilyn, gwneud ‘er cof’ y byddem. Gall pob un ohonom wneud rhywbeth er mwyn dweud wrth y cenedlaethau i ddod am hanes Iesu, a helpu eglwysi i adeiladu eu hunain, meddai Guto.
Yn dilyn yr anerchiad, fe weinyddwyd y Cymun gyda chymorth diaconiaid Hermon a Bryn Iwan.
Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i glywed y siaradwr gwadd, Hefin Wyn o Faenclochog, yn adrodd hanes cyffrous ‘Brwydr y Preselau’– y bryniau uchel sydd i’w gweld ar y gorwel pell o Fwlch-y-corn. Yn Nhachwedd 1946 roedd y fyddin am droi 200 o deuluoedd allan o’u ffermydd mynyddig er mwyn sefydlu maes ymarfer anferth i danciau rhyfel a throi Maenclochog, i bob pwrpas, yn bentre gariswn, meddai Hefin. Byddai hynny wedi bod yn ergyd ddinistriol i ardal Gymraeg ei hiaith sy’n frith o olion cyn-hanesyddol gwerthfawr. Sefydlwyd Pwyllgor Diogelu’r Preselau, gyda gweinidogion fel y Parchedigion Llewelyn Lloyd Jones, Moelwyn Daniel ac R Parry Roberts yn flaenllaw. Roedd y Parchg SB Jones, cyn-weinidog Bwlch-y-corn a Pheniel, hefyd â chysylltiad â’r ymgyrch.
Mewn un o’r aml gyfarfodydd, dywedodd y swyddogion nad oedd llawer o werth i’r mynyddoedd ond i fagu defaid. Atebodd Parry Roberts mai ‘magu eneidiau wnawn ni ffor’ hyn!’ Y bygythiad yna ysgogodd Waldo Williams i gyfansoddi’r gerdd fawr ‘Preseli’ sy’n gorffen gyda’r linell enwog: “Cadw y mur rhag y bwystfil, cadw y ffynnon rhag y baw."
Yn dilyn ymgyrch hir llwyddwyd i rwystro cynllyn y fyddin, ac fe ddangosodd Hefin nifer o sleidiau o’r daith gerdded flynyddol dros y bryniau i ddathlu’r llwyddiant hwnnw.
Cafodd Emlyn Davies a Rhodri-Gwynn Jones, dau o’r gweithgor a fu’n gyfrifol am lunio’r llawlyfr Heulwen Dan Gymylau, eu croesawu i Gwrdd Chwarter yn Smyrna. Daeth criw teilwng ynghyd i gael eu tywys gan y ddau drwy’r gwahanol adrannau, a chafwyd cyfarfod buddiol tu hwnt. Wrth gydnabod y croeso, dywedodd Emlyn mai breuddwyd y gweithgor yw gweld pob Cyfundeb yn perchnogi’r cynllun, ac yn troi’r ffeil yn raglen waith ymarferol wrth gefnogi’r Ymgyrch Eglwysi Dementia-gyfeillgar.
Esboniodd Emlyn mai pwrpas y cyflwyniad oedd ateb tri chwestiwn sylfaenol, sef :
Pwysleisiwyd mai’r her i bob eglwys yw creu man diogel i rai sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac fe wyddom i gyd fod ein capeli mewn sefyllfa gref iawn i wireddu’r nod honno, gan ein bod yn gymuned ofalgar wrth natur, gydag ystod eang o dalentau a phrofiad ymhlith ein aelodau, ac mae gennym adeiladau a chyfleusterau eraill y medrwn ni eu defnyddio at ddibenion da.
Eglurodd y ddau siaradwr fod y ffeil ei hun yn hunan-gynhaliol os mai dyna’r dymuniad. Hynny yw, does dim angen unrhyw beth arall ar unrhyw eglwys i weithredu. Ond mae yna hefyd gyfle i fod yn fwy uchelgeisiol, oherwydd i gyd-fynd â’r ffeil mae yna nifer o bethau ychwanegol ar gael ar wefan yr Undeb. Mae modd dewis o blith nifer o ddolenni sy’n ein tywys i wefannau eraill i gael rhagor o wybodaeth, i weld ambell i fideo ac i glywed cerddoriaeth.
Lluniau: Emlyn Davies a Rhodri-Gwynn Jones, Gillian Edwards yn cyfeilio, Rhiannon Mathias yn Cadeirio, a rhan o’r gynulleidfa llon yng Nghwrdd Chwarter Smyrna.
(GWELER FIDEO ar y testun yn adran Adnoddau y wefan hon.)
ARCHIF
CYFARFOD RHITHIOL Y CWRDD CHWARTER, 11 MAWRTH, 2021
CYFARFOD RHITHIOL Y CWRDD CHWARTER, 26 Tachwedd 2020
CYFARFOD RHITHIOL Y CWRDD CHWARTER, 8 Hydref 2020
CWRDD CHWARTER CANA, Bancyfelin 12 Mawrth 2020
CWRDD CHWARTER HENLLAN AMGOED 28 Tachwedd 2019
CWRDD CHWARTER Y PRIORDY, CAERFYRDDIN 9 Mai 2019
CWRDD CHWARTER PENIEL, 14 Mawrth 2019
CWRDD CHWARTER TRINITI, Llanboidy 29 Tachwedd 2018
CWRDD CHWARTER SILOAM, Pontargothi. 13 Medi 2018
CWRDD CHWARTER CAPEL Y GRAIG, TRELECH 10 MAI 2018
CWRDD CHWARTER GIBEON ger Bancyfelin. 8 Mawrth 2018
CWRDD CHWARTER PENYGRAIG Croesyceiliog ger Caerfyrddin. 23 Tachwedd 2017
CWRDD CHWARTER PANT-TEG
Dydd Iau, 9 Mawrth 2017
CWRDD CHWARTER SEILO,
Rhos, Llangeler 14 Medi 2017
CWRDD CHWARTER
Capel Newydd, Llanybri 11 Mai 2017
CWRDD CHWARTER ELIM, FFYNNON-DDRAIN Dydd Iau, 24 Tachwedd, 2016
CWRDD CHWARTER BWLCHNEWYDD Dydd Iau, 12 Mai, 2016
CWRDD CHWARTER PHILADELFFIA, Nant-y-caws, Dydd Iau,10 Mawrth 2016
CWRDD CHWARTER BETHLEHEM, PWLL-TRAP, SAN CLÊR, Dydd Iau, 26 Tachwedd, 2015
CWRDD CHWARTER PEN-Y-BONT ger Trelech. Dydd Iau, 10 Medi, 2015
LLUNIAU: CWRDD CHWARTER HOREB, Felingwm Dydd Iau, 14 Mai, 2015
Cofnodion isod: cliciwch y 'saeth' i agor.
Hefyd, mae dau Benderfyniad cafodd eu derbyn i'w rhoi gerbon Undeb 2015 yn yr adran Newyddion.
LLUNIAU: CWRDD CHWARTER SMYRNA Llangain, Dydd Iau, 12 Mawrth 2015
Cofnodion isod: cliciwch y 'saeth' i agor.
GWLAD YR IÂ: GWLAD FLAENGAR
Yn dilyn ymweliad â’r wlad honno, cafwyd cyflwyniad hynod ddiddorol gan y Parchg Tom Defis i ddangos pa mor flaengar yw Gwlad yr Iâ mewn tri maes.
HAWLIAU GWRAGEDD Soniodd am y ffaith er bod dros hanner o boblogaeth y byd yn wragedd, dim ond 1% o gyfoeth y byd sydd gan wragedd. Bu streic gan wragedd yng Ngwlad yr Iâ yn 1975 a arweiniodd at wneud Gwlad yr Iâ'r wlad fwyaf cyfartal yn y byd heddiw.
CYMDEITHAS HEDDYCHOL Tynnodd sylw at y ffaith mai Gwlad yr Iâ, yn ôl y “Global Peace Index” yw’r wlad fwyaf heddychol yn y byd. Nid oes ganddi luoedd arfog, mae’r canran o droseddau yn isel, a cheir sefydlogrwydd cymdeithasol a gwleidyddol.
NEWID HINSAWDD Soniodd fod ymdrechion Gwlad yr Iâ i leihau eu lefelau carbon wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r lefelau wedi plymio ers 1970 ac erbyn hyn does bron dim nwyon yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd. Ar drothwy’r Etholiad Cyffredinol, tynnodd sylw at beth all benderfyniadau gwleidyddol eu cyflawni.
CWRDD CHWARTER TABERNACL, HENDYGWYN-AR-DÂF, 4 Rhagfyr 2014
CWRDD CHWARTER GWERNOGLE, 11 MEDI, 2014 Cofnodion: Cliliwch ar y 'saeth'
In this paragraph you can write a description of your business, your personal interests, your professional skills - or really whatever you prefer to use this text box for.
TRAFOD ANGHENION CEFN GWLAD YNG NGHYFARFOD YR HWYR
Roedd y panel yn cynnwys siaradwyr fyddai’n llawn deilwng o fod ar ‘Pawb a’i Farn’.
Agorwyd y cyfarfod gyda darlleniad a gweddi gan Eric Jones, cyn i'r cadeirydd, Annalyn Davies, gyflwyno aelodau'r panel, sef (chwith-dde yn y llun): y Cynghorydd Peter Davies MBE, un o gyfarwyddwyr Undeb yr FUW; y Cynghorydd Sir lleol Mansel Charles, sy'n ffermio yn Felingwm ac yn wirfoddolwr gydag elusen amaethyddol yr RABI; Arwel Jones, aelod gyda'r Annibynwyr yng Nghapel Isaac, cyn-gadeirydd C.FF.I Sir Gaerfyrddin ac un sy’n weithgar iawn gyda’r mudiad yn lleol ac yn genedlaethol, a'r Canon Eileen Davies, cynghorydd cefn gwlad Esgobaeth Tyddewi. Cafodd y drafodaeth ei llywio gan Alun Lenny, fel cyn-ddarlledwr S4C a BBC
Cymorth Ysbrydol ac Ymarferol
Bu cryn drafod am faich gweinyddol ffermio y dyddiau hyn, ac am y drafferth a’r gofid mae llanw ffurflenni grantiau yn ei beri i amaethwyr. Dyma’r grantiau sy’n cynnal bywoliaeth, ac fe all gwneud un camgymeriad bach achosi colled ariannol sylweddol. Soniwyd fod ffermwyr yn bobl falch, sy’n aml yn gyndyn i droi at eraill am gymorth – yn enwedig ar faterion ariannol neu bersonol. Yn y fath sefyllfa, mae'n bwysig bod yr eglwysi yn medru helpu trwy sgwrsio yn gyfrinachol, neu gyfeirio ffermwyr at bobl all helpu llanw ffurflenni, ayyb. Mae amaethu yn gallu bod yn waith unig iawn. ‘Slawer dydd, roedd ffermwyr yn cwrdd mewn oedfaon ac yn sgwrsio tu fas i’r capel – yn aml mwy nac unwaith ar y Sul. Trafodwyd yr angen i ddenu pobl o bob oed trwy lunio oedfaon sy’n apelio atynt hwy, ac i roi cyfle i gymdeithasu dros baned ar y diwedd. Mae angen, hefyd, inni agor ein hadeiladau i bobl ddod i fan tawel pan nad oes oedfa ac i bontio gyda mewnfudwyr sy’n symud i fyw i gefn gwlad.
Dyma drafodaeth werthfawr, fyddai'n werth ei ehangu ar lefel genedlaethol.
CWRDD CHWARTER BWLCH-Y-CORN: GWYDDONYDD BLAENLLAW YN ESBONIO NEWID HINSAWDD
Dr Hefin Jones yn esbonio pam fod y byd yn cynhesu, a sut fydd hynny'n effeithio ar fywydau pawb. Clywodd cynulleidfa o dros 80 o bobl ei anerchiad ym Mwlch-y-corn, cyn ymuno mewn trafodaeth a llunio Cynnig i'r Undeb.
Y CWRDD CHWARTER: YN LLAWN
Cadeiriwyd gan Annalyn Davies (chwith). Bu Alun Lenny yn darllen a'r Parchg Edwin Courtney Lewis yn gweddio ar ddechrau’r cwrdd yn y prynhawn. Eirlys Harries a gyfeiliodd yn y prynhawn, a Helen Mason a Gwyneth Cumber yn y cwrdd hwyrol.
DARPAR LYWYDD YR UNDEB Cyhoeddwyd bod Mr Glyn Williams wedi caniatau inni gyflwyno'i enw fel darpar-lywydd Undeb yr Annibynwyr, a’i fod wedi’i ethol yn ddi-wrthwynebiad.
MIC: mae'r prysurdeb yn parhau, gyda'r diwrnod ym Mhentywyn wedi llwyddo; bydd Bwrlwm Bro yn rhan o'r Sul Sbesial yng Ngorffennaf, a'r mabolgampau yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin 25 Mehefin, a'r rownd derfynol 16 Gorffennaf. Mae blwyddyn arall i'r cyfnod presennol, a'r clybiau plant yn parhau, gyda rhagor yn cael eu sefydlu. Dosbarthwyd Llythyr Newyddion a Gweddi MIC.
MASNACH DEG: mae'r holl enwadau bellach yn ceisio cael pawb i gofrestru. Gan nad oes llawer o adnoddau Cymraeg gan Masnach Deg Cymru gwneir cais iddynt gynhyrchu rhagor.
Fel gwyddonydd blaenllaw ac awdurdod rhyngwladol ar newid hinsawdd, a chyn-Lywydd Undeb yr Annibynwyr, mae
Dr Hefin Jones yn credu’n gryf mewn deialog rhwng crefydd a gwyddoniaeth. R’oedd capel Bwlch-y-corn yn llawn (isod) ar noson Cwrdd Chwarter Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin i’w glywed yn trafod yr her fawr sy’n wynebu dyfodol ein byd.
Mae mwy i newid hinsawdd na chynhesu byd-eang, meddai Dr Hefin Jones. Mae'n achosi tywydd eithafol: mwy o gorwyntoedd cryf a llifogydd gyda’r colledion economaidd a ddaw yn eu sgil. Nid yw newid hinsawdd yn beth newydd, ond bu cynnydd aruthrol yn y ddwy ganrif ddiwethaf. Edrychodd Dr Jones ar newid hinsawdd o bum gwahanol safbwynt:
Codiad yn lefel y môr. Rhagwelir codiad o tua 12 centimedr erbyn 2030, a thua 50cm erbyn 2100. Mae hanner poblogaeth y byd yn byw ar lan y môr. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ansawdd dŵr ffres, a rhagwelir mai’r frwydr dros ddŵr fydd prif achos rhyfeloedd y dyfodol.
Effeithiau ar blanhigion ac anifeiliaid Bydd dyblu CO2 yn cynyddu tyfiant planhigion, ond yn enwedig chwyn. Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar wledydd tlawd yn arbennig.
Effeithiau ar amaeth Bydd cynnydd o 5% mewn cnwd grawn mewn rhai gwleydd, ond y gwledydd sy’n datblygu yn dioddef gostyngiad o 10%.
Patrymau afiechyd Wrth i’r tymheredd godi, bydd y mosgito, sy’n lledu malaria, yn ffynnu gan fygwth 60% o boblogaeth y byd erbyn 2050.
Ffoaduriaid amgylcheddol Erbyn diwedd y ganrif rhagwelir y bydd 150 miliwn o bobl yn gorfod symud oherwydd effeithiau newid hinsawdd. Beth fydd ein hymateb i hynny? Onid oes dyletswydd arnom ni, Gristnogion, i dderbyn ein brodyr a'n chwiorydd?
Trafod a Chynnig
Yn dilyn yr anerchiad cafwyd trafodaeth. Pwysleisiwyd yr angen i Gristnogion roi sylw i wyddoniaeth a gwleidyddiaeth, gan fod dyletswydd arnom i ddeall sut mae’r pethau hyn yn effeithio ar fyd Duw. Rhaid wynebu’r ffaith mai ni sy'n creu’r problemau yn bennaf, a’r gwledydd tlawd sy’n dioddef.
Ar ôl clywed yr anerchiad a’r drafodaeth, cyflwynodd y Parchg Tom Defis gynnig i’w osod gerbron Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis nesa, ar ran Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin:
Bod Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cefnogi, ac yn ymrwymo, i hybu ac i weithredu ymgyrch ddiweddaraf Cymorth Cristnogol a gyhoeddwyd y mis yma (Mehefin 2014) sydd yn ymwneud a Newid Hinsawdd.
Eiliwyd gan y Parchg Aled Jones ac fe gytunodd y Cwrdd Chwarter yn unfrydol i anfon y cynnig at yr Undeb.
CYMORTH CRISTNOGOL Roedd adnoddau'r Wythnos, ar y thema Heddwch, gan Tom Defis. Ym mis Mehefin, bydd Cymorth Cristnogol yn ail-lansio ymgyrch Newid Hinsawdd, a gofynnodd Tom am ganiatad i lunio cynnig i'r Undeb yng nghyfarfod yr hwyr (gweler eitem uchod).
RHAGLEN DDATBLYGU Nododd Ken Williams bod cais yn cael ei baratoi am flwyddyn eto, ac anogodd eglwysi i wneud cais am weithgaredd, gan bwysleisio nad oes yr un gweithgaredd yn rhy fach
ADRODDIAD Y CYDLYNYDD CENHADOL Bydd angen deunydd yn fuan i’r Gyda'n Gilydd nesaf. Mae nifer fawr o bobl yn edrych ar Cyfundeb.com – dros 1,000 ar Ddydd Llun y Pasg. Cyflwynodd adroddiad cryno o gyfarfod Cyngor Gwanwyn yr Undeb (gweler: www.annibynwyr.org/6296.html). Mae’r Llyfr Gwasanaeth newydd ar fin ymddangos: y fersiwn llawn yn y Cyfarfodydd Blynyddol, a'r fersiwn poced yn yr Eisteddfod. Ychwanegodd Gwynn Bowyer bod yr Undeb Credyd yn apelio am wirfoddolwyr ar gyfer y swyddfa ym marchnad Nghaerfyrddin.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD Mae eglwysi wedi dechrau cyfrannu ar gyfer 2014, ac apeliodd at y lleill i wneud.
APÊL HAITI Mae angen mawr, a bydd yr Undeb yn dal i dderbyn cyfraniadau’r eglwysi hyd yr hydref.
CRISTNOGAETH A'R GYMRAEG. Yn dilyn cyhoeddi canlyniad gweithgor Cyngor Sir Gâr i ddulliau o hybu’r iaith, bydd y Pwyllgor Gwaith yn ei astudio er mwyn gweld sut all yr eglwysi a’u haelodau helpu.
SUL SBESIAL 13 Gorffennaf 2014. Dywedodd Guto Llewelyn y'i cynhelir yn Neuadd a Phafiliwn Sioe Pontargothi, am 2.00, ar y thema Cymod. Fel rhan ohono cynhelir Bwrlwm Bro i'r plant.
PRIODASAU CYPLAU O'R UN RHYW. Cafwyd cyflwyniad gan Aled Jones (gweler eitem ar glawr y wefan hon). Cafwyd sylwadau a chwestiynau call a chytbwys o’r llawr. Cytunodd pawb iddo fod yn gyflwyniad gwerthfawr.
GWARCHOD PLANT, IEUENCTID AC OEDOLION BREGUS. Mae llythyr gan bob Ysgrifennydd eglwys yn nodi mai cyfrifoldeb swyddogion ac ymddiriedolwyr yw penderfynu pwy sydd i gael eu gwirio, a sicrhau bod y broses iawn yn cael ei weithrefu. Os am wneud, dylid cysylltu â'r swyddfa yn Ninbych yn nodi manylion y rheini. Anfonir yr un manylion at bob gweinidog hefyd.
MILITAREIDDIO A RHYFEL 1914-1918 Cyflwynir penderfyniad Cwrdd Chwarter mis Mawrth yn yr Undeb. Thema'r Sul Sbesial fydd Cymod.
CWRDD CHWARTER GWERNOGLE, 11 Medi, 4.00 a 7.00. Eric Jones a'n croesawodd, gan nodi mai dim ond 13 o aelodau sydd yn yr eglwys, ond byddai'r croeso yn wresog.
UNRHYW FATER ARALL Mynegwyd pryder am nifer gwylwyr a chyllid S4C i'r dyfodol, ac fe dderbyniwyd y cynnig canlynol i'w gyflwyno i gyfarfod blynyddol yr Undeb eleni:
Nodwn, gyda gofid, y gostyngiad o 17% yn ffigurau gwylio S4C dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Sylwn fod hyn wedi digwydd ers cwtogi'r grant i gynnal y sianel o £100m yn 2010 i £83m yn 2012. Gan fod S4C nawr yn cael ei ariannu'n bennaf trwy'r Drwydded Deledu, pryderwn y gallai dyfodol y sianel fod mewn perygl pan fydd siarter y BBC yn cael ei adolygu.
Bod Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn:
1. hysbysu Ed Vazey AS, Ysgrifennydd Diwylliant y DU, o'n pryderon, ac yn gofyn pa gamau fyddai llywodraeth y DU yn barod i'w cymryd er mwyn diogelu dyfodol S4C a sicrhau bod y sianel yn cael ei ariannu'n deg;
2. gofyn i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, am addewid bod Llywodraeth Cymru yn barod i wneud popeth posibl i warchod dyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg;
3. cyfleu ein pryderon i'r BBC gan ofyn am sicrwydd na fydd cwtogi afresymol pellach yn digwydd yn y grant i S4C.
Cynnig: Alun Lenny; Eilydd: Parchg Beti-Wyn James (Ar ran Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin)
Mae'r Pwyllgor Bugeiliol yn barod i helpu eglwysi sy'n wynebu'u dyfodol, a nodwyd bod 4 eglwys eisoes wedi gofyn ym help. Gwerthwyd Capel Mair Llanfallteg, a bwriedir dwyn yr achos i ben. Gall y Pwyllgor Bugeiliol helpu hefyd os yw gweithredoedd eglwys ar goll.
Cyhoeddodd Gwynn Bowyer ei fod yn barod i dderbyn cyfraniadau i Gronfa Gweddwon Gweinidogion, a diolchodd i'r rhai sydd wedi rhoi eisoes.
CROESO BWLCH-Y-CORN: Ken Williams a'n croesawodd yn gynnes i'r festri, a nododd bod byr-hanes yr eglwys ar gefn taflen y dydd. Traddododd y Cadeirydd y Fendith i orffen y cyfarfod.
CWRDD YR HWYR
Bu Delyth John yn darllen a Helen Mason yn ein harwain mewn gweddi ar ddechrau’r cwrdd. Cafwyd cân gan y plant, i osod naws fywiog y noson. Yn dilyn anerchiad Dr Hefin Jones (gweler yr erthygl uchod) fe ddiolchwyd iddo gan y Cadeirydd, cyn i Rhiannon Mathias ddiolch am groeso aelodau Bwlch-y-corn, y siaradwyr, swyddogion y Cyfundeb, ac am y wledd a gafwyd yn y festri. Yn dilyn canu emyn, cyflwynodd y cadeirydd y Fendith i orffen y cyfarfod.
Diolch i Joan Thomas, Cofnodydd y Cyfundeb, am ei gwaith yn nodi'r uchod.
CWRDD CHWARTER BLAENYCOED, 5 Rhagfyr 2013
CWRDD
CHWARTER
CANA
Bancyfelin
Medi 12
Cwrdd yr hwyr:
Trafodaeth fanwl ar sut y gallem wneud mwy o ddefnydd o'n haelodau ac adeiladau i hybu'r iaith Gymraeg mewn cymunedau - a thrwy hynny adfywio'r iaith a bywyd yr
eglwys leol.
Aelodau'r Panel:
Catrin Howells Lloyd, Cefin Campbell a'r Parchg Rhodri Glyn Thomas AC, gydag is-gadeirydd y Cyfundeb
Annalyn Davies
Y Capel: Craig Cymreictod
Yn ein bywydau dyddiol, rydym ni’r Cymry Cymraeg yn gorfod cyfaddawdi drwy’r amser trwy orfod siarad iaith arall yn ein gwlad ein hunain. Ond ar ddydd Sul mae modd ymuno mewn cymuned lle allwn fyw trwy gyfrwng ein mamiaith o’r crud i’r bedd. Ein capeli Cymraeg.
Yn wir, mewn sawl ardal wledig lle mae’r siop, yr ysgol, swyddfa’r post a’r dafarn wedi cau, dim ond y capel sy’n dal ar agor – er mor fregus yw cyflwr cymaint o’r rheini erbyn hyn, fel y gwyddom yn dda. O gofio’r cysylltiad clos a fu rhwng Cristnogaeth â’r Gymraeg ar hyd yr oesoedd, mae Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin yn credu bod modd adfywio’r berthynas yna, er mwyn sicrhau dyfodol ein ffydd a’n hiaith i’r oesoedd a ddêl.
Mae’r Cyfundeb wedi bwrw ati i lunio cynllun i annog ac i helpu’r eglwys leol i wneud defnydd o aelodaeth ac adeiladau i hybu’r iaith a’r diwilliant Cymraeg yn ei hardal, yn unol â’r traddodiad Cristnogol.
Dywedodd y Parchg Rhodri Glyn Thomas A.C. bod hi’n bwysig gwarchod y capeli fel sefydliadau Cymraeg eu hiaith. Byddai cyfaddawdi trwy droi’n ddwyieithog yn beryglus, meddai. Mae cyfle i’r Ysgolion Sul elwa o’r ffaith fod nifer cynyddol o blant yn siarad Cymraeg. Mewn sawl ffordd, meddai, mae’r Gymraeg yn gryfach yn ardal San Clêr nawr nac ydoedd pan ddaeth yn weinidog i’r cylch 35 mlynedd yn ôl. Sôn am ffyrdd o ddarparu ar gyfer y di-gymraeg, heb i’r gweithgarwch droi’n ddwyieithog, wnaeth Catrin Howells Lloyd, pennaeth cwmni cyfieithu Trywydd ac aelod ym Mheniel. Dywedodd bod nifer o rieni di-gymraeg yn dod i oedfaon Nadolig, er enghraifft, am fod eu plant yn cymryd rhan. Byddai darparu gwasanaeth cyfieithu-ar-y-pryd yn eu nhw i ddeall beth sy’n cael ei ddweud. Mae Trywydd yn cynnig gwasanaeth eithriadol o rad am y chwe mis nesa o dan gynllun arbennig. Y siaradwr olaf oedd y Cyng. Cefin Campbell, sy’n aelod yng Nghapel Newydd Llandeilo, ac yn gadeirydd y gweithgor sirol sy’n ymchwilio i ffyrdd o gryfhau’r iaith yn Sir Gâr. Soniodd am ddyled y Gymraeg i Gristnogaeth, trwy Feibl William Morgan, Ysgolion Griffith Jones ac emynau’r Diwygiad Efengylaidd yn y 18fed ganrif. Ond mae popeth yn newid, meddai, ac er bod y capeli yn dal i fod fel craig ynghanol yr edwino, rhaid i’r aelodau fwrw ati i gynllunio yn ddyfeisgar ar gyfer y dyfodol, gan roi’r pwyslais ar bobl – nid y sefydliad.
Yn sgil sylwadau’r tri siaradwr, fe wnaeth y cwestiynau a gododd o blith y gynulleidfa sylweddol ysgogi trafod brwd. Mynegwyd awydd cryf i warchod y capel Annibynnol fel cartref i gymuned Gristnogol, Cymraeg ei hiaith. Ond cytunwyd bod angen ymestyn allan i’r gymuned ehangach hefyd, a gwneud mwy i ddenu siaradwyr Cymraeg yn ogystal â darparu ar gyfer y di-gymraeg a dysgwyr ar achlysuron arbennig. Cafwyd sawl awgrym ynglŷn â sut i wneud hynny. Rydym yn byw mewn oes lle nad yw llawer o bobl yn adnabod eu cymdogion, ac yn byw bywydau ynysig a mewnblyg. ‘Tŷ Cwrdd’ oedd yr enw â roddwyd ar gapel gynt; fe allai unwaith eto fod yn le i fwy o bobl gwrdd a dod i adnabod ei gilydd mewn cymuned Gristnogol.
Bydd y sylwadau a’r awgrymiadau a gafwyd yng Nghana, a thrwy e-bost ers hynny, yn sail i ddogfen sy’n cael ei pharatoi gan Bwyllgor Gwaith y Cyfundeb. O gofio fod Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ym Mangor wedi cytuno i gefnogi’r strategaeth yma, fe allai’r ddogfen honno fod o ddefnydd cenedlaethol.
Bu CWRDD CHWARTER CAPEL CENDY, DYDD IAU 9 MAI yn achlysur gweithgar a llawen. Uchod, gwelir y plant a'r bobol ifanc fu'n cymryd rhan yn oedfa'r hwyr, ynghŷd â swyddogion Capel Cendy a swyddogion y Cyfundeb. Ar y dde yn y pulpud (mewn siwt olau) mae'r Parchg RONALD WILLIAMS, Caernarfon, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a fu'n annerch y Cwrdd Chwarter.
Cyfarfod y Prynhawn
Croesawodd y cadeirydd bawb, cyn i Marlene Jones ddarllen a gweddio. Mair Jones a gyfeiliodd yn y ddwy oedfa. Yna croesawodd y cadeirydd y Parchg Ddr Geraint Tudur (llun isod), a'i longyfarch ar gael ei ail-ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ac yn Llywydd Cymdeithas Annibynwyr y Byd.
Ei destun oedd CYFRIFOLDEBAU YMDDIRIEDOLWYR. Soniodd am bwysigrwydd cadw’r Gweithredoedd yn ddiogel a chyfrifoldeb Ymddiriedolwyr i sicrhau bod eglwys yn glynu at yr hyn sydd ynddynt. Mae cyfrifoldebau ymddiriedolwyr yn fater cyfreithiol, a rhaid eu cymryd o ddifrif. Os yw’r Gweithredoedd gwreiddiol ar goll, rhaid i'r un newydd fod yn gydnaws a'r hyn sy'n arferol o fewn y traddodiad Annibynnol.
PENODI YMDDIRIEDOLWYR. Yr eglwys sy'n dewis, ac nid oes rhaid dal y swydd 'am oes'. Gall eglwys eu newid neu eu diswyddo. Mae'r gweithredoedd, fel arfer, yn datgan faint o ymddiriedolwyr sydd i fod, a rhaid cadw at hynny, neu ystyrir yr ymddiriedolwyr yn esgeulus. Ni all ymddiriedolwyr ymddiswyddo pan aiff pethau'n anodd. Yr unig bryd y gallant fynd o'u swydd yw pan y cant eu rhyddhau gan yr eglwys. Pan ddewisir neu newid ymddiriedolwyr, rhaid mynd at gyfreithiwr i gael Memorandwm, i'w gadw gyda'r gweithredoedd. Pan yw ymddiriedolwr yn marw, a rhai newydd yn dod, bydd angen dyddiad y farwolaeth ar y cyfreithiwr, wrth lunio Memorandwm newydd.
Ar hyd y blynyddoedd ymddiriedolwyr fu'n gofalu am yr adeiladau, a'r diaconiaid am waith yr eglwys. Ond nawr, mae angen enw 'generig' am y bobl sy'n rhedeg elusennau, a'r gair a ddewiswyd oedd YMDDIRIEDOLWYR. Yn wyneb y gyfraith, ystyr 'ymddiriedolwyr' yw ymddiriedolwyr adeiladau, yr eiddo, y diaconiaid a swyddogion. Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr yw gwneud yn siwr fod pawb sydd ag angen hynny yn cael eu Gwirio (CRB), ac mae 'pawb' yn cynnwys y rhai a gaiff eu cyflogi ee. gweinidogion a’r rhai sy'n gwirfoddoli ee. athrawon Ysgol Sul. Rhaid sicrhau bod polisi yswiriant y capel yn eu cynnwys er mwyn eu diogelu.
OS NAD OES YMDDIRIEDOLWYR, gall y Comisiwn Elusennau ddyfarnu bod yr elusen yn cael ei cham-weinyddu, ac mewn achos eithafol, gall golli'i statws elusennol (hy. bydd yn rhaid talu trethi).Pe bai eglwys yn dod i ben HEB ymddiriedolwyr, gallai’r eiddo ( yr arian, tir, adeiladau) fynd i'r Goron. Cafwyd cyfle i holi’r Ysgrifennydd Cyffredinol, ac fe achubodd nifer ar y cyfle i wneud hynny.
Yn dilyn y sesiwn am Ymddiriedolwyr, trafodwyd amryw faterion gan gynnwys gwaith MIC.
Diolchwyd i'r eglwysi sydd wedi cyfrannu eisoes tuag y gwaith, a gofynnir i'r lleill wneud yn fuan. Defnyddir yr arian hwn i gynnal swydd Nigel Davies. Disgwylir £200 oddi wrth eglwysi sydd ag Ysgol Sul, ac mae llythyr ar fin ei anfon i ofyn am y tal aelodaeth - £10 i ymaelodi yn llawn, a £5 i'r lleill. Roedd Llythyr Newyddion ar gael i'w ddosbarthu. Yn ystod Hydref a Thachwedd mae Nigel Davies yn barod i ymweld ag eglwysi gyda Stori'r Mis, a chynhelir Joio Gyda Iesu yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman, ddydd Sul, 3 Tachwedd, gyda Ian Hughes o Lanelli yn siaradwr gwadd. Cynhelir cystadlaethau chwaraeon ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Ail-ddechreuir a Chlwb Plant yng Nghaerfyrddin yn Hydref. Apelir am gefnogaeth i'r fenter.
MASNACH DEG: roedd tystysgrifau Masnach Deg ar gael i'w dosbarthu i bedair eglwys: Blaen-y-coed, Bryn Iwan, Elim Ffynnonddrain, a Seilo. Pe bai eglwys yn cynnal gweithgaredd arbennig, byddai Ann Loughran neu Meinir James yn barod i fynd a chyflenwad o nwyddau yno.
CYMORTH CRISTNOGOL: cyhoeddwyd Apêl Syria, gwlad sydd mewn sefyllfa trychinebus, gan fod traean y bobl wedi symud o'u cartref, a thros ddwy filiwn wedi mynd o'r wlad. Aiff yr arian i bartneriaid yn Syria a thu fas, er mwyn cynorthwyo'r ffoaduriaid. Gwerthfawroga Cymorth Cristnogol bod Llywodraeth Prydain wedi penderfynu yn erbyn ymosod ar Syria. Roedd cardiau post ymgyrch OS ar gael i bobl eu cymryd, a chardiau Nadolig.
RHAGLEN DDATBLYGU: mae'r Parchg Ken Williams yn barod i helpu unrhyw un i lanw ffurflen gais os oes ganddynt prosiect. Mae mwy o fanylion ar wefan yr Undeb, yma:
ADRODDIAD Y CYDLYNYDD CENHADOL: lluniodd gyhoeddusrwydd i'r Sul Sbesial; cyhoeddwyd Gyda'n Gilydd ar y diwrnod; cafwyd adroddiadau yn Y Tyst ac ar y wefan hon. Erbyn hyn, mae ymhell dros 20,000 o bobl wedi edrych arno eleni. Lluniodd, hefyd, bosteri a deunydd hysbysebu’r Cwrdd Chwarter.
DYFODOL Y SUL SBESIAL: penderfynwyd arbrofi ymhellach y flwyddyn nesaf, a defnyddio'r ymateb a geir ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.
APÊL HAITI: fe'i lansiwyd yn y Sul Sbesial; gofynnwyd i bawb fynd a phecyn i bob eglwys, pecyn sy'n cynnwys gweddi, gwybodaeth, adnoddau gweledol a DVD; a rhoi gwybod i'r holl aelodau, gan y gallai rhai unigolion fod yn awyddus i gyfrannu. Gofynnwyd i bawb roi gwybod i Ken Williams beth yw ein bwriad; awgrymodd gael cornel Haiti, neu hysbysfwrdd Haiti; efallai manteisio ar dymor Diolchgarwch i rannu a rhoi yn enw Crist; a thynnwyd ein sylw at yr hanes sydd ar y wefan ac yn y Gyda'n Gilydd cyfredol. Dylid anfon sieciau yn uniongyrchol i Dŷ John Penri, gan roi gwybod i Ken Williams yr un pryd (01269 842163 kenantlle@btinternet.com) Bydd ef yn cysylltu ag eglwysi yn ystod y flwyddyn, a derbynnir arian hyd yn oed ar ol haf nesaf.
CYFARFODYDD BLYNYDDOL YR UNDEB: dosbarthodd Alun Lenny daflen yn nodi'r prif bwyntiau - ethol y Parchg Ddr R Alun Evans yn is-lywydd yr Undeb, ac ail-etholwyd Geraint Tudur yn Ysgrifennydd Cyffredinol am gyfnod o saith mlynedd eto. Cynhwysa'r penderfyniadau y pynciau Y GYMRAEG A CHRISTNOGAETH er mwyn i eglwysi wneud gwell defnydd o'n haelodaeth a'n hadeiladau yn unol a'r traddodiad Cristnogol; defnyddio RHWYDWEITHIO CYMDEITHASOL gan sicrhau diogelwch plant a chodi ymwybyddiaeth o'r peryglon posibl; galw am ddiddymu trwyddedu sy'n caniatau cwmniau i werthu ARFAU I FADAGASGAR; a galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r STAFELL FYW sydd wedi helpu rhwng 200 a 300 person oddi ar ei sefydlu ddwy flynedd yn ol. Cytunodd yr Undeb yn y Cyfarfodydd Blynyddol i gyfrannu £5,000 yn syth, gan annog enwadau Cristnogol eraill i helpu hefyd. Croesawyd dau weinidog newydd - Guto Llywelyn yn ardal Hendy-gwyn ar Dâf; a Carwyn Siddall sydd a gofalaeth bro yn Llanuwchllyn. Daeth ysgol Sul Hermon, Cynwyl Elfed, yn drydydd yng nghystadleuaeth Cwpan Denman am greu baner ar y thema STORI FAWR DUW.
CROESO CANA: Carolyn Hancock a'n croesawodd yn gynnes i'r capel, sydd wedi cadw fflam ffydd yn llachar er 1821; ac at y byrddau.
CWRDD CHWARTER BLAEN-Y-COED 5 Rhagfyr 10.30 a 1.30.
Cynhadledd yn y bore, ac Anerchiad y Cadeirydd yn y prynhawn.
––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––
LLUN uchod: Cwrdd Chwarter Peniel, ger Caerfyrddin, ac isod: Ebeneser, Abergwili.
CWRDD CHWARTER Ebeneser, Abergwili, 14 Mawrth 2013, dan gadeiryddiaeth y Parchg Ddr Felix Aubel.
Darllenodd a gweddiodd Undeg Evans yng nghyfarfod y bore. Enfys Howells a gyfeiliodd yn y ddwy oedfa.
Dosbarthwyd copi o'r llyfryn "Cynhalwyr Sir Gâr" sy’n rhoi gwybodaeth gwerthfawr i bawb sy’n gofalu am berthynas yn eu cartref.
Masnach Deg: anfonwyd taflen hybu Pythefnos Masnach Deg i bob eglwys, gan annog y rhai sydd heb gofrestru i wneud hynny er mwyn derbyn tystysgrif. Mae eglwysi Bryn Iwan, Seilo, a Blaen-y-coed newydd wneud. Da iawn nhw!
Wythnos Cymorth Cristnogol: Mai 12-18 mae adnoddau'r Wythnos (gwasanaethau, DVD etc) ar gael yn swyddfa CC yn Heol Dŵr, ac hefyd ar y we. Cyhoeddwyd Ymgyrch “OS”, sydd â'r slogan "Mae digon o fwyd i bawb OS" Mae un o bob wyth yn mynd i'r gwely yn newynu, a dwy filiwn o blant yn marw o newyn yn flynyddol. Nodwyd bod Jeff Williams wedi ymddeol ar ôl 22 mlynedd fel Ysgrifennydd dros Gymru, Gymorth Cristnogol, a phum mlynedd cyn hynny yn Drefnydd Canolbarth Cymru. Ei olynydd yw Cathryn Daniels, merch ifanc alluog, brofiadol. Anfonwyd llythyr i Jeff yn dymuno'n dda iddo ar ei ymddeoliad.
Y Cydlynydd Cenhadol: Esboniodd Alun Lenny pwy yw CWM, y corff rhyngwladol sy’n ariannu cynlluniau cenhadol fel rhaglen Datblygu’r Annibynwyr. Cynhaliodd y Cyfundeb stondin yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Roedd yn cynnwys baner newydd sy'n datgan mwy amdanom ni. Mae’r stondin ar gael i fynd i unrhyw ddigwyddiad pwrpasol – felly, rhowch wybod i Alun. Cynhoeddwyd Gyda'n Gilydd ar y thema Gŵyl Ddewi, ac mae'r wefan yn cael ei datblygu’n gyson.
Adroddiad Y Trysorydd: Dyma adroddiad olaf Mel Jenkins. Diolchodd i Alun Williams am archwilio'r llyfrau. Bydd yn trosglwyddo'r gwaith i'w olynydd, y Parchg Tom Defis. Nododd Mel taw yn Ebeneser y cyflwynodd ei adroddiad cyntaf, a'r olaf. Diolch o galon iddo am ei waith trylwyr.
Recriwtio Plant i'r Lluoedd Arfog: mae Pwyllgor Deisebau Llywodraeth Cymru am gael barn pobl am y Lluoedd Arfog yn darparu cyngor gyrfaoedd mewn ysgolion. Ymddiriedwyd yn y swyddogion i ymateb ar ran y Cyfundeb erbyn canol mis Ebrill.
Adroddiad O Gyngor Undeb yr Annibynwyr, 8 - 9 Mawrth 2013: dosbarthwyd taflen, a nodwyd rhai materion a gododd:
Oherwydd marwolaeth Gwyneth Morus Jones, Darpar-lywydd yr Undeb, cynhelir etholiad cyn y Cyfarfodydd Blynyddol, 20 - 22 Mehefin eleni. Y pregethwr gwadd fydd y Parchg Alun Tudur, gyda’r Parchg John Owain Jones yn gyfrifol am yr Astudiaethau Beiblaidd a'r Parchg John Watkin yn traddodi'r Weddi Goffa. Mae Panel y Rhaglen Ddatblygu yn argymell codi'r swm a gynigir i eglwysi o £500 i £1,000, a lleihau'r swm i gyfundebau o £3,000 i £2,000. Nod ariannol Apêl yr Undeb i Haiti eleni yw £200,000 ac awgrymir £1 y pen y mis am flwyddyn i bob aelod, gan ofyn yr un pryd i aelodau fod mor hael ag y gallant. Mae angen inni fod yn fwy croesawgar i ieuenctid, a'u tynnu mewn i weithgaredd yr eglwys. Bydd yr Undeb yn cefnogi ac yn cyllido taith o'r Cyfundebau, taith a drefnir gan yr ifainc, ar gyfer y ieuenctid. Thema Cystadleuaeth Cwpan Denman a Thlysau Lerpwl 2014 yw Heddwch, a daw manylion llawn yn nes ymlaen. Gobeithir trefnu trafodaeth gyda Chymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Cymru, gan i Carwyn Jones ddweud mai cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion yw penderfynu a wahoddir y Lluoedd Arfog i recriwtio plant mewn ysgolion.
Mae gofid bod rhai pobl yn pregethu o Sul i Sul er nad ydynt wedi'u cydnabod yn unol a'r canllawiau a nodir yn Y Blwyddiadur. Gofynnir i'r Cyfundebau annog y rhain i ddilyn y cwrs priodol, sef cwrs dwy flynedd, rhan amser.
Militareiddio a Chofio Rhyfel 1914-18: bydd Cymdeithas y Cymod yn cynhyrchu deunydd ar y mater, gan ddangos sut y gallwn nodi'r Rhyfel.
Hybu'r Iaith Gymraeg: gan fod capeli ac eglwysi cefn gwlad yn uniaith Gymraeg, dylem wneud ymdrech i dynnu dysgwyr mewn. Cytunwyd i gychwyn prosiect newydd ar y testun hwn. Awgrymwyd cynnal dosbarth ar hanes y cylch (efallai yn Saesneg), yn y capel, gan geisio annog y bobl a ddaw i ystyried dysgu Cymraeg a dod i'n hoedfaon. Cynigion i'r Undeb: cytunwyd i'r Pwyllgor Gwaith drafod unrhyw syniadau a dderbynnir.
Cwrdd Chwarter Capel Cendy 9 Mai, 4.00 a 7.00: Llywydd yr Undeb, y Parchg Ronald Williams, Caernarfon fydd yn annerch oedfa'r hwyr.
Cyrddau Chwarter Medi A Rhagfyr 2013: 12 Medi – Cana, 4.00 a 7.00; 5 Rhagfyr – Blaenycoed, 10.30 a 1.30.
Unrhyw Fater Arall [a] tâl am barcio ar y Sul - bydd hyn yn digwydd drwy'r sir, a phenderfynwyd parhau i wrthwynebu. Bydd rhai gweinidogion yn cwrdd â swyddogion y Cyngor Sir, a chytunwyd i anfon llythyr, ar ran y cyfundeb, ymlaen llaw, i gadarnhau'r gwrthwynebiad a wnaethom gynt, datgan ein siom, a nodi'n dymuniad i drafod y ffordd ymlaen. [b] llyfryn pererindota - mae hwn ar y gweill. [c] preifateiddio Swyddfa Bost Caerfyrddin - golyga hyn is-raddio canolfan bwysig i fywyd pobl yr ardal, a nodwyd bod deiseb yn mynd o gwmpas i wrthwynebu'r symudiad, a'n hannog i'w arwyddo.
Croeso Ebeneser: Y Parchg Emyr Lyn Evans a'n croesawodd at y byrddau, gan nodi ei fod yn gwneud hyn am y pedwerydd tro, a'r tro olaf, meddai!
Cyfarfod Y Prynhawn
Cafwyd darlleniad a gweddi gan y Parchg Eifion Lewis ar ddechrau'r cyfarfod, cyn i'r cadeirydd groesawu Meleri Cray rheolwraig Canolfan Byddin yr Iachawdwriaeth, Caerfyrddin. Cafwyd cyflwyniad grymus a diddorol dros ben gan Meleri, gyda chymorth delweddau PwyntPwer, am waith y ganolfan. Ewch i’r adran Newyddion ar y wefan hon i weld adroddiad llawn: cyfundeb.com/newyddion.html
Ar ddiwedd yr anerchiad, cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau, cyn i Beti-Wyn James ddiolch i Meleri Cray am y gwaith a wna Byddin yr Iachawdwriaeth yn enw Crist, er efallai nad ydy'r pobl a ddaw yno yn sylweddoli hynny. Diolchodd hefyd i aelodau Ebeneser am y croeso cynnes, i Undeg Evans, Eifion Lewis, ac i Enfys Howells am eu gwaith.
Diolch i Gofnodydd y Cyfundeb, Joan M Thomas, am y wybodaeth uchod.
Isod: Undeg Evans, Meleri Cray a rhai o'r gwrandawyr astud yn Ebeneser, Abergwili
Bu’r Cwrdd Chwarter a gynhaliwyd yn Ffynnonbedr gerllaw Meidrim ar ddydd Iau, 6 Rhagfyr 2012, dan gadeiryddiaeth Phil Davies, yn un prysur a chynhyrchiol. Dyma ddetholiad o gofnodion ein Cofnodydd, Joan Thomas.
CYFARFOD Y BORE
Croesawodd y cadeirydd bawb, a dymuno yn dda i'r rhai a oedd yn absennol oherwydd afiechyd. Darllenodd Tomos Howells a gweddiodd Arwyn Jones yn y gynhadledd, a Hevina Jones a Linda Davies yn oedfa’r prynhawn. Eifion Rees a gyfeiliodd yn y bore, a Sheila Lewis yn y prynhawn. Croesawodd Ernest Lewis ni i Ffynnon Bedr, ac at y byrddau amser cinio.
MIC (Mudiad Ieuenctid Cristnogol): Adroddodd Parchg Tom Defis am lwyddiant Joio gyda Iesu a gynhaliwyd ym Methania, Tymbl, gyda chapel llawn a ieuenctid yn cymryd rhan. Apeliwyd am gefnogaeth ariannol i'r gwaith, a gwerthfawrogir cyfraniadau oddi wrth eglwysi sydd heb gyfrannu o'r blaen.
MASNACH DEG a CHYMORTH CRISTNOGOL: Yn dilyn llythyr Meinir James ac Ann Loughran i’r eglwysi, roedd tair arall wedi cofrestri. Roedd gan y Parchg Tom Defis gardiau Nadolig a nwyddau Masnach Deg ar werth, gan gynnwys siocledi ar ffurf plwm pwdin. Tynnodd sylw at waith Cymorth Cristnogol ym Mhalesteina a'r mudiadau sy'n gweithio gyda'r Iddewon a'r Palestiniaid. Soniodd hefyd am y bws oedd wedi bod o gwmpas y wlad (gan alw yng Nghaerfyrddin) yn tynnu sylw at gwmniau mawrion sy'n gweithio mewn gwledydd tlawd ond yn osgoi talu trethi. Rhoddwyd gryn sylw i'r mater hwn, gan enwi cwmniau ym Mhrydain sy'n osgoi talu. Roedd Tom hefyd yn gwerthu’r Blwyddiadur.
RHAGLEN DATBLYGU: Cyhoeddwyd rhifyn Nadolig Gyda'n Gilydd – am y tro cyntaf fel cynnyrch tîm. Derbyniwyd cymorth o Rhaglen Datblygu’r Annibynwyr er mwyn hyfforddi pobl i wneud y gwaith cenhadol y dymuna'r eglwysi i'r Cyfundeb ei wneud. Gobeithir derbyn grantiau pellach am y ddwy flynedd nesaf. Apelir am atebion oddi wrth yr eglwysi i'r holiadur a anfonwyd i bob eglwys. Mae'r Pwyllgor llywio yn barod i gyflwyno manylion syniadau a chynlluniau llwyddiannus i eglwysi a Chyfundebau eraill yng Nghymru.
ADRODDIAD Y CYDLYNYDD CENHADOL: ffurfiwyd tîm o bedwar i gynhyrchu Gyda'n Gilydd, ac ar y dudalen flaen ceir anogaeth ar inni fod yn barod i genhadu. Mae’r Parchg Aled Jones, gweinidog yn y Cyfundeb, hefyd yn gweithio i Goleg yr Annibynwyr o’i swyddfa yng Nghaerfyrddin. Pwysleisiodd Alun Lenny arnom i anfon deunydd at aelodau'r tîm, gan anelu at gynhyrchu'r rhifyn nesaf erbyn y Cwrdd Chwarter nesaf. Bu Alun ym Mhencader y diwrnod cynt yn sôn wrth aelodau Cwrdd Chwarter Ceredigion am waith ein Cyfundeb.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD Rhoddodd Mel Jenkins ei adroddiad ariannol olaf, diolchodd i holl eglwysi'r cyfundeb, yn enwedig y trysoryddion, am eu cymorth yn ystod y saith mlynedd diwethaf, i’r eglwysi sydd wedi talu'u tanysgrifiad am eleni; i swyddogion y Cwrdd Chwarter, a dymunodd yn dda i'w olynydd. Diolchodd y cadeirydd iddo am ei waith trylwyr dros y blynyddoedd, ac anogodd yr eglwysi sydd heb eto gyfrannu, i wneud hynny.
ADRODDIAD O GYNGOR YR UNDEB: Mae'n cyfarfod ddwy waith y flwyddyn, gyda chynrychiolwyr o bob Cyfundeb yn helpu llunio rhaglen waith yr Undeb, sef yr elusen sy'n gwasanaethu'r eglwysi. Dosbarthwyd taflen yn nodi'r materion pwysicaf a godwyd yn y chwe adran.
CYLLID: angen hyblygrwydd gyda chronfeydd yr Undeb, er mwyn eu defnyddio'n fwy effeithiol; angen casglu enwau trysoryddion yr eglwysi.
CENHADAETH A'R EGLWYS FYD-EANG: anerchwyd y cynrychiolwyr gan Wayne Hawkins, Swyddog cenhadol CWM Ewrop, ac wrth ganmol yr Undeb am gyflwyno a gweithredu'r Rhaglen Ddatblygu, pwysleisiodd bum pwynt sylfaenol cenhadaeth yr eglwysi - cyhoeddi'r Efengyl, hyfforddi pobl i wneud y gwaith, darparu ar gyfer yr anghennus, gwrthsefyll anghyfiawnder o bob math, a gofalu am y cread.
TEULU: derbyniwyd adroddiad am strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, Mwy na Geiriau, sy'n cydnabod yr angen i ddarparu ar gyfer pobl mewn ysbyty ac mewn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'r Undeb yn ymgyrchu am hyn ers tro, a bu’r eglwysi a Chyfundebau yn flaengar yn ymateb i'r strategaeth Trafodwyd yr angen i wneud eglwysi yn fwy croesawgar i blant a ieuenctid, cynorthwyo teuluoedd mewn galar, a thlodi ymhlith plant.
ADDYSG A CHYFATHREBU: testun Cwpan Denman 2013 yw creu baner Stori Fawr Duw. Adroddwyd am y cyfleoedd fydd i gyfrannu at raglen newydd ar Radio Cymru, a gwasanaeth newydd Radio Beca a fydd yn dechrau darlledu fis Mai nesaf.
DINASYDDIAETH GRISTNOGOL: mynegwyd siom na chaniatawyd cyhoeddi hysbyseb Cymdeithas y Cymod ar S4C, a chytunwyd i wahodd pob eglwys i lythyru a'r sianel; cytunwyd i gefnogi ein hymgyrch ni i geisio perswadio ysgolion uwchradd i wahardd y lluoedd arfog rhag recriwtio plant 16 oed; bydd 2018 yn 200mlwyddiant y genhadaeth i Fadagascar, ac awgrymwyd sefydlu pwyllgor i drefnu'r dathliadau.
YR EGLWYSI A'U GWEINIDOGAETH: mae angen annog Cyfundebau, drwy'r Pwyllgorau Bugeiliol, i gyfleu anghenion eglwysi i'r Undeb. Trafodwyd yr angen i benodi gweinidog i fugeilio a chefnogi gweinidogion eglwysi, a gwerthuso'r gwaith a wneir gan Arweinyddion eglwysi.
HOLI CYFREITHIWR YR UNDEB: cafwyd anerchiad wych gan David Jones, cyfreithiwr yr Undeb, am weithredoedd eglwysi, cyfrifoldebau ymddiriedolwyr, a'r newidiadau sydd i ddod ym myd elusen.
SUL SBESIAL14 Gorffennaf 2013: bydd y pwyllgor trefnu yn cyfarfod yn y flwyddyn newydd, a gwahoddir awgrymiadau ac adborth i'r Sul blynyddol. Nodwyd ei fod yn gyfle i gyfarfod ag eraill, ac yn cael sylw yn y papurau lleol.
HOLIADUR YR EGLWYSI: dim ond 4 eglwys sydd wedi ymateb, ac anogir y lleill i ateb erbyn y Cwrdd Chwarter nesaf, er mwyn i'r cyfundeb wybod sut i weithredu.
LLAWLYFR Y CYFUNDEB: mae nifer o gopiau ar gael ers Undeb 2010, a chytunwyd i'w dosbarthu i weddill cartrefi preswyl Sir Gâr (mae copiau eisoes wedi'u dosbarthu i gartrefi o fewn cylch y Cyfundeb), llyfrgelloedd y sir, yr Archifdy, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rhoir y mater ar Agenda'r Cwrdd Chwarter nesaf eto.
WYTHNOS GWEITHREDU AR DLODI: 26 Ionawr - 4 Chwefror 2013. Mae tlodi plant yng Nghymru yn broblem sylweddol, gyda 100,000 ( 31%) yn byw mewn tlodi, h.y. mewn cartrefi gydag incwm wythnosol llai na £250. Digwydd hyn gan amlaf pan bydd gan rieni, gofalwyr, neu blant anabledd; y teulu yn ddibynnol ar fudd-daliadau; y rhieni mewn cyflogaeth incwm isel; dim ond un rhiant; a'r teulu yn fawr. Gallwn ni weddio a gweithredu drwy godi ymwybyddiaeth o dlodi a digartrefedd ymhlith yr eglwysi; ysgogi gweithredu ar gynlluniau ac ymgyrchoedd; cynnal oedfaon ar y thema (yn enwedig i blant a ieuenctid); a chyfrannu at elusennau sy'n helpu'r tlawd a'r digartref. Dywedwyd bod banc bwyd yng Nghaerfyrddin, ond na chaiff lawer o gyhoeddusrwydd. Dangoswyd taflen a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) Gofalwyr Sir Gaerfyrddin, sy'n hysbysu’r hyn sydd ar gael i bobl sy'n gofalu yn ddi-dâl am aelodau o'r teulu. Bydd Gwynn Bowyer yn sicrhau copi i bob eglwys erbyn y Cwrdd Chwarter nesaf. Dylem sicrhau, hefyd, bod pob eglwys yn cael gwybodaeth am fudiadau sy'n helpu pobl.
RECRIWTIO PLANT I'R LLUOEDD ARFOG: roedd yr Ysgrifennydd wedi llythyru gydag ysgolion lleol yn galw arnynt i beidio caniatau swyddogion o’r Lluoedd Arfog i ymweld ag ysgolion. Ond ni dderbyniodd atebion hyd yn hyn. Llythyrwyd ag S4C a Llywodraeth Cymru hefyd. Mae o leia 5 Cyfundeb arall wedi derbyn ein cais i wneud yr un peth.
SWYDDOGION 2013, AC AELODAU O'R PWYLLGOR GWAITH: derbyniwyd enw’r Parchg Iwan Vaughan Evans fel aelod newydd i'r Pwyllgor Gwaith. Y Cadeirydd fydd y Parchg Ddr Felix Aubel; yr is-gadeirydd Annalyn Davies; trysorydd (dros dro) y Parchg Tom Defis, yn dilyn ymddeoliad Mel Jenkins. Diolchwyd iddo ef am ei waith trylwyr.
CWRDD CHWARTER EBENESER : 14 Mawrth 2013, am 10.30 a 1.30. Bryn Jones, yn absenoldeb ei weinidog oherwydd salwch, a'n croesawodd yn gynnes iawn i Abergwili.
U.F.A: Gan fod Dewi Thomas, Elim, wedi symud i fyw i Gaerdydd, gofynnwyd a fyddai modd anfon gair o ddiolch a dymuniadau gorau, gan iddo fod mor weithgar yn y Cyfundeb. Awgrymwyd mai da o beth fyddai darganfod pwy, o fewn y cyfundeb, sy'n siarad iaith arall heblaw Cymraeg a Saesneg, gan y gallent fod yn bont arbennig iawn i gysylltu a mewnfudwyr. Yn ystod y deunaw mis nesaf, fe glywn ddigon o bropaganda milwrol, gan fod hi’n fwriad nodi canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014. Mae angen inni ystyried sut y byddwn yn ymateb i gais a fydd yn sicr o ddod inni i fod yn rhan o'r cofio. Cytunwyd i'r Pwyllgor Gwaith drafod y mater.
Phil Davies, Cadeirydd 2012, yn galw pawb i drefn, gyda'r
Ysgrifennydd, y Parchg Beti-Wyn James wrth ei ochr!
CYFARFOD Y PRYNHAWN
Diolchodd y Parchg Ken Williams i'r cadeirydd am ei waith drwy'r flwyddyn, a dymuno yn dda i'r cadeirydd newydd, a diolch ymlaen llaw am ei gyfraniad yn y cyfarfod; diolchodd i'r Pwyllgor Gwaith a'r swyddogion am baratoi ar gyfer y cyfarfodydd hyn; i aelodau Ffynnon Bedr am ein gwahodd, i'r rhai a gymerodd ran, ac i'r gwragedd am y lluniaeth. Diolchodd Phil Davies am y fraint a'r anrhydedd o fod yn gadeirydd, ac i bawb am y gefnogaeth a charedigrwydd a dderbyniodd, ac yn arbennig i Carol Evans, a'i perswadiodd i ymgymryd a'r gwaith. Roedd yn bleser ganddo gyflwyno'i olynydd, y Parchg Ddr Felix Aubel, gweinidog grymus; a dymunodd yn dda iddo wrth ofyn iddo arwyddo Beibl y Cadeirydd. Yn ei dro, diolchodd Dr Aubel i'r cyn gadeirydd am ei waith yn ystod y flwyddyn a fu, gan nodi'r fraint a deimlai wrth ddilyn rhai o gewri'r sir. Edrychai ymlaen at gyd-weithio gyda swyddogion ac aelodau'r Cyfundeb.
ANERCHIAD Y CADEIRYDD
Yn ei anerchiad, dangosodd sut allwn ni ddysgu o'r gorffennol, gan nodi bod y ganrif gyntaf o Oed Crist yn debyg mewn sawl ffordd i heddiw. Cymerodd fel testun Actau 20:24 Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw. Ni fyddem ni yma heddiw oni bai i'r Apostol Paul bregethu i'r holl fyd. Mae'r Efengyl ar gael i bob un ohonom, os ydym yn cydnabod Iesu fel y Ffordd, y Gwirionedd, a'r Bywyd. Wynebai'r Eglwys yn y ganrif gyntaf broblemau ofnadwy. Roedd yr Apostol Paul yn argyhoeddedig bod amser yn brin, ac yn dymuno gwneud gymaint ag y gallai i Gristnogaeth lanw bwlch gwacter ystyr. Yr un yw'r sefyllfa heddiw - mae Cristnogaeth yn cynnig ffordd o fyw inni, yn cynnig patrwm bywyd. Nododd nad yw anghredadun, o angenrheidrwydd, yn waeth person na chredadun, ond nid oes gan yr anghredadun batrwm o ffordd i fyw. Roedd Cristnogion yn y lleiafrif yn y ganrif gyntaf, fel heddiw.
HER HEDDIW
Her sy'n ein wynebu ni heddiw yw fod yn barod i ddorri'n rhydd o gadwyni'r gorffennol, a darganfod beth sydd gan Dduw i ddweud wrthym ni nawr. Mae angen inni feddwl, a chael ein meddiannu gan yr Ysbryd Glân. Efallai ein bod wedi tueddu i fod yn or-draddodiadol ein crefydd. Dibynnwn ar gariad Duw i'n hachub, a chynnig rhywbeth tragwyddol i'r byd. Nid ydym yma i elwa'n faterol, ond i dderbyn gras a bendith Duw, a rhoi ein hunain i eraill, fel y gwnaeth Iesu Grist wrth roi ei hun ar y Groes. Beth allwn ni ei roi y dylem fod yn ei ofyn, ac nid beth allwn ni ei dderbyn. Daeth Iesu Grist i'n byd i gynnig gwerthoedd ysbrydol inni, a'n tynnu yn nes at Dduw, er mwyn i'r byd ddod yn well lle i fyw ynddo. I Gristnogaeth fod yn fyw, mae'n rhaid iddo fod yn berthnasol i bobl, ac yn ddealladwy. Mae mwy o Gristnogion yn dioddef heddiw nag yn oes Paul, ac wrth roi enghreifftiau o'r Dwyrain Canol nododd Dr Aubel na chawn ni wybod y gwir ar y cyfryngau am yr hyn sy'n digwydd yno. Er gwaethaf hyn, mae’r Efengyl yn cynnig gobaith inni heddiw, fel yn y ganrif gyntaf - Saif ein gobaith yn yr Iesu. Mae'r hyn a rown ni i ddynoliaeth yn bwysicach na'r hyn yr ydym ni yn ei dderbyn.
Wrth orffen, cyhoeddwyd bod Hanes Eglwys Ffynnon Bedr ar werth am £2. Yn dilyn canu emyn, gweinyddodd y cadeirydd y Cymun, gyda chymorth aelodau'r eglwys, cyn cyflwyno'r Fendith i orffen y cyfarfod.
MEL JENKINS o Hendygwyn, yn traddodi ei adroddiad ariannol olaf fel trysorydd y Cyfundeb. Bu Mel yn y swydd am saith mlynedd. Mae dyled y Cyfundeb yn fawr iddo.
hawlfraint © cyfundeb AGC Sefydlwyd a lluniwyd y wefan hon trwy gymorth caredig Rhaglen Datblygu'r Annibynwyr